Sefydliad y Merched

CYFARFU’R Sefydliad ar yr 22 Fawrth dan lywyddiaeth Bet Roberts. Dechreuwyd trwy ganu ‘Meirion’ a Margaret Jones yn cyfeilio. Croesawodd y Llywydd yr aelodau a dymunodd wellhad i Mrs G Francis, Jane Davies a Bet Jones ar ol ei damwain a da oedd cael ei chroesawu i’r cyfarfod.Darllennodd Miss N Evans gofnodion Chwefror ble cawsom ein atgoffa am Gyngor y Gwanwyn yn Rhydymain ar 26 Ebrill a chyfle i fynd i Coleg Denman gyda Federasiwn Caernarfon ym mis Medi. Ni dderbynwyd y lythyr misol am Chwefror na Mawrth.Ein gwr gwadd oedd Vivian Parry Wiliams yn rhoi hanes erchyllderau rhyfel 14-18 a’r llythyrau anfonwyd i rai fel y Parch Silyn Roberts, fu yn Bethel, Tanygrisiau. Mae’r llythyrau ar gadw yn Llyfrgell Genedlaethol Aberystwyth. Bu tlodi mawr yn ystod y rhyfel ymhlith chwarelwyr Penmachno oedd yn gweithio rhan amser. An-fonwyd arian iddynt gan y Cymry yn America a Canada. Diolchwyd iddo gan Bet Roberts.Darparwyd lluniaeth dan ofal Valmai Hughes a Valerie Davies.Enillwyd y rafflau gan Arwyn Williams, Manod a Margaret Jones.Yn ein cyfarfod nesaf ar 26 Ebrill bydd Paul Williams yn rhoi sgwrs am ‘Gwarchodfeydd Natur’. Mae croeso i aelodau newydd ymuno â ni yn ein adeilad ar Rhodfa Wynne.