Mae disgyblion Ysgol Gynradd Llanbedrog yn hapus iawn y dyddiau yma ar ol i’w cae chwarae yn yr ysgol gael llawr diogel arbennig.

Cafodd y llawr ei osod gan gwmni o Bethesda sy’n arbenigio mewn pethau fel hyn, llawr wedi’i gwneud o rwber arbennig sydd wedi ei osod a dylsai pawb allu chwarae’n ddiogel arno.

Fe gostiodd y llawr newydd dros £5,000 gyda’r Gymdeithas Rhieni yn cynorthwyo yn hael iawn gyda’r arian, gyda chymorth aml i fusnes leol a bu llawer o ddigwyddiadau yn yr ysgol i godi arian.

Yn y llun yn chwarae â’r offer chwarae gyda’r llawr newydd mae: Honey Hookes, Isabel Davenport, Felix Boyd, Holly Heywood, Esme Wright-Dungar, Oliver Weston a Tamsin Tomlinson.