Mae amser yn rhedeg allan i danysgrifio i sicrhau copi o lyfr am Ogwyn Davies, yr arlunydd o Dregaron.
Mae ei deulu yn annog pobl i danysgrifio er mwyn ariannu’r llyfr clawr caled, Bywyd a Gwaith Ogwyn Davies, a fydd ar gael yn ystod Eisteddfod Genedlaethol yn Nhregaron fis Awst.
Mehefin 6ed yw’r dyddiad cau ar gyfer tanysgrifio a bydd y 200 copi cyntaf o’r llyfr yn cynnwys print o Eglwys St Caron yn yr eira.
Bydd y gyfrol yn sôn am ei ddyddiau cynnar yn Nhrebannws yng Nghwm Tawe, dod nôl o’r fyddin a phenderfynnu mynd i’r Ysgol Gelf yn Abertawe.
Wedi ymweliad a Cheredigion syrthiodd mewn cariad a’r ardal ac yn lwcus iddo ef daeth swydd athro celfyddyd i fyny yn Ysgol Tregaron.
Cafodd ei ethol i’r Academi Frenhinol Gymreig yn 1994 ac mae rhai o’i ddarluniau nodweddiadol yn cynnwys Castell Dolbadarn a Soar Y Mynydd.
Mae’r actores Nia Caron (Pobl y Cwm) a’i brawd Huw Davies wedi bod yn ymwchilio ar gyfer y llyfr ers blwyddyn a hanner a Ceri Thomas yw awdur y llyfr dwyieithog.
• Bywyd a Gwaith yr Artist Ogwyn Davies, Ceri Thomas, Y Lolfa, £40.






Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.