Faint ohonoch chi sydd yn fodlon cyfaddef yn gyhoeddus i sleidio i mewn i DMs rhywun? Dyma un o’r pynciau llosg a drafodir yn Probcast, podlediad newydd sbon gan Hansh.

Bob wythnos bydd Hollie Smith, Beth Frazer, Mared Jarman ac Amber Davies yn cymryd tro i gadeirio tra bod y tair arall yn dadlau eu hachos dros gael y broblem ‘gwaethaf’.

Mae’r pedair yn byw gydag anabledd, felly mae’r sgyrsiau yn eang – o rwystrau penodol a phersonol iddynt i broblemau cyfoes all bawb uniaethu gyda nhw.

”I fi, oedd bod yn rhan o’r podcast yn agoriad llygaid i brofiadau pobl eraill yn y gymuned anabl,” meddai Hollie Smith, sy’n newyddiadurwraig o’r Wyddgrug.

“Fel rhywun byddar, profiad cyfyngedig sydd gen i o ran yr heriau sy’n wynebu pobl byddar yn benodol – ond oedd cael clywed profiadau Mared, Amber a Beth wedi fy helpu i ddeall yr heriau sy’n bodoli ar raddfa ehangach – ac yn gyfle i rannu profiadau efo pobl sydd wir yn deall realiti byw efo anableddau yn yr unfed ganrif ar hugain.”

Meddai Beth Frazer o Ynys Môn: “Da ni gyd efo gwahanol anableddau neu salwch cronig, ac mae’n gyfle i siarad am bethau ‘sa ni’n licio newid – fel pobl sy’n rhy gyflym i farnu.

“Mae un o’r genod bron yn ddall ac mae hi wedi cael pobl yn gweiddi arni wrth fynd mewn i doiled anabl.

“Tydi pob anabledd ddim yn visible felly gobeithio trwy wrando bydd pobl mwy empathetic, yn meddwl cyn dweud pethau a bod ‘chydig fwy mindful.

“I fi, mae’n bwysig bod yn mindful be ‘da chi’n ddweud ar-lein.

“Ges i fy cyber-bwlîo pam wnes i fundraisio ar gyfer triniaeth i brain tumour fi.

“Oedd o’n rili scary ar y pryd – fe wnaeth un boi ddweud ei fod isio saethu fi.

“Pam mae pobl yn meddwl bod nhw’n gallu dweud pethau fel yna ar-lein? Ar un ochr mae p?er social media yn gallu bod yn amazing, ond yn sicr tydi online trolling ddim.

“Nes i rili mwynhau’r profiad o greu Probcast.

“Da ni bob tro yn teimlo mor hapus yn gadael y podcast, mae fel outlet i gael pethau allan a fentio am bethau sydd wedi digwydd yr wythnos honno.”

Daeth Probcast i fodolaeth ar ôl galwad am gyfranwyr gan y gwasanaeth digidol, Hansh.

Dywedodd Guto Rhun, comisiynydd cynorthwyol ar-lein S4C: “Mae’r podlediad wedi tyfu allan o sesiynau mentora Medru Hansh – seminarau ar-lein ar gyfer crewyr cynnwys anabl, pobl ifanc sy’n angerddol am gynnwys ar-lein.

“Mae’n wych gweld fod y syniadau hynny wedi datblygu â bellach yn cael eu rhannu â chynulleidfa eang Hansh.”

Gwrandewch ar Hollie, Beth, Mared ac Amber yn rhoi’r byd yn ei le ar Spotify neu Apple Podcasts

I danysgrifio ewch i, www.linktr.ee/hanshs4c

• Probcast. Ar Spotify ac Apple Podcasts. Cynhyrchiad Boom Cymru ar gyfer Hansh / S4C