Merched y Wawr y Dderi

YM mis Mai cyfarfu y gangen i drefnu rhaglen y tymor nesaf. Rhoddwyd y raffl gan Deborah Jones ac fe’i henillwyd gan Mair Spate. I ddiweddu’r cyfarfod cafwyd paned o de a bisgedi wedi ei roddi gan Eleanor Evans ac Iris Quan.Bu’r cyfarfod nesaf yn Ysgoldy Cwrt Llangeitho am 2yp ar ddydd Mercher, 15 Mehefin. Yno gwelwyd gardd a llawer o blanhigion a blodau, ac yno hefyd y cafwyd te cyn dychwelyd adref. Ar nos Iau, 16 Mehefin ymwelwyd â Theatr Felinfach, lle gwelwyd Casgliad y Werin. Roedd y noson yma yng ngofal Hazel Thomas a Brenda Evans.

Maesyffynnon

CYNHELIR cyngerdd blynyddol y capel ar nos Sul, 26 Mehefin am 7.30yh. Y cadeirydd fydd John Davies, Llambed, ond o Llangybi yn wreiddiol ac yn un o blant y capel. Yno y bu ei fam a’i dadcu yn faenoriad am flynyddoedd. Y côr gwadd fydd Côr y Gen, Aberystwyth - Côr y Llyfrgell Genedlaethol.

Te Croeso

AR ddydd Sul, 22 Mai cynhaliwyd te croeso i ficer newydd Eglwys Cybi, sef y Parch Andy Herrick. Daeth tyrfa dda ynghyd o gynrychiolwyr eglwysi a chapeli y cylch. Yno hefyd, yr anrhydeddwyd Rowena Williams am ei gwasanaeth fel organyddes yr eglwys am fron i 65 o flynyddoedd. Derbyniodd dusw o flodau hyfryd fel cydnabyddiaeth o’i gwasanaeth am flynyddoedd maith, gyda dymuniadau gorau i’r dyfodol. Rhoddwyd surpreis i Arthur Edwards hefyd pan y derbyniodd yntau rhodd am ei hir wasanaeth i’r eglwys. Dwy orchest arbennig. Daliwch ati eich dau am flynyddoedd eto.