CYNHALIWYD penwythnos o gystadlu brwd ym Mhafiliwn Pontrhydfendigaid dros ben-wythnos Gwyl Banc Calan Mai, gyda chystadleuwyr o bell ac agos.
Yn ôl y beirniaid, Robat Arwyn (Cerdd), Dewi ‘Pws’ Morris a Linda’r Hafod (Llefaru) y Prifeirdd T James Jones a Manon Rhys (Barddoniaeth a Llenyddiaeth) a Geunor Roberts (Cerdd Dant ac Alaw Werin) roeddent wedi eu plesio, gyda safon y cystadlu yn uchel iawn gydol y penwythnos.
Enillwyd y Goron gan Lyn Ebenezer, Pontrhydfendigaid, y Gadair gan John Emyr o Gaerdydd, a Thlws yr Ifanc gan Cai Fôn Davies, o Ynys Môn.
Llywydd yr Wyl eleni oedd un o ffydloniaid yr Eisteddfodau yn y Bont ers y dechrau, ac aelod gwerthfawr o’r pwyllgor, Gwen Herberts, Dolfawr. Mwynhawyd ei hanerchiad yn fawr iawn, yn ei dull naturiol, llawn hiwmor. Cyflwynwyd hi gan John Jones, a chyfarchwyd hi gyda phenillion gan or-nith iddi, sef Mari Herberts, a Gwenno Humphreys o Ysgol Pontrhydfendigaid.
Dymuna’r pwyllgor ddiolch yn fawr i bawb a gefnogodd yr eisteddfodau’n y Bont eleni eto mewn unrhyw fodd, a diolch arbennig i’r holl wirfoddolwyr am eu gwaith di-flino dros y pen-wythnos.
Canlyniadau: Parti canu oedran ysgol Gynradd, Adran Aberystwyth; Parti llefaru - oedran Ysgol Gynradd, Ysgol Pontrhydfendigaid; Côr plant - oedran Ysgol Gynradd, Adran Aberystwyth; Ymgom - oedran Ysgol Gynradd, Ysgol Pontrhydfendigaid.
Unawd offerynnol Bl 6 ac iau, Cerys Angharad, Llanybydder; Ymgom - Ysgol Uwchradd, Ysgol Henry Richard, Tregaron; Unawd offerynnol – Bl 7 i 9, Lefi Aled Dafydd, Eglwyswrw; Parti canu, Merched Bro’r Mwyn, Pontarfynach; Unawd offerynnol – Bl 7 a throsodd, Megan Teleri Davies, Llanarth; Ensemble offerynnol, Grwp Tannau Cothi Telyn.
Cystadleuaeth Cymdeithas Eisteddfodau Cymru 2017/18 – 10-26 oed (Ensemble lleisiol), Criw Aber, Aberystwyth; Enillydd Tlws Coffa Goronwy Evans am y Chwaraewr Pres Gorau, Betsan Fychan Downes.
Unawd Bl 2 ac iau, Aria Wyn Davies, Llanbrynmair; Llefaru Bl 2 ac iau, Aria Wyn Davies; Unawd Bl 3 a 4, Sara Elena, Gorsgoch; Llefaru Bl 3 a 4, Ela Mablen Griffiths Jones.
Unawd Bl 5 a 6, Ioan Joshua Mabbutt, Aberystwyth; Llefaru Bl 5 a 6, Ioan Joshua Mabbutt, Aberystwyth; Unawd Alaw Werin Bl 6 ac iau, Erin Fflur Morgan; Unawd Cerdd Dant Bl 6 ac iau, Ioan Joshua Mabbutt.
Llefaru Bl 7 i 9, Zara Evans, Tregaron; Unawd Bl 10 i 13, Cai Fôn Davies, Talwrn, Sir Fôn; Llefaru Bl 10 i 13, Sara Elan Jones, Cwmann; Unawd Cerdd Dant Bl 7 i 13, Cai Fôn Davies, Talwrn, Sir Fôn; Unawd Alaw Werin Bl 7 i 13, Guto Lewis.
Unawd Cerdd Dant Agored, Dafydd Jones, Ystrad Meurig; Unawd Alaw Werin Agored, Dafydd Jones; Sadwrn y Sêr, Unawd o Sioe Gerdd, Opera Ysgafn neu Ffilm dan 19 oed, Owain Rowlands; Unawd allan o Sioe Gerdd, Opera Ysgafn neu Ffilm Agored, Glain Rhys; Cyflwyniad Dramatig Unigol Agored, Cadi Jones, Ffair Rhos; Enillydd Cwpan Her Parhaol Moc Morgan i’r perfformiad gorau yn Sadwrn y Sêr, Glain Rhys.
Deuawd Agored, Phillip Watkins, Llanymddyfri ac Andrew Jenkins, Casnewydd; Unawd Gymraeg, John Davies, Llandybie; Unawd Dan 25 oed, Erin Rossington; Canu Emyn dros 60 oed, Gwynne Jones, Llanafan; Monolog, Meleri Morgan, Bwlchllan; Bardd y Gadair, John Emyr, Caerdydd.
Unawd Oratorio, Erin Rossington; Prif Gystadleuaeth lefaru unigol, Meleri Morgan, Bwlchllan; Her Unawd, Efan Williams; Cyfansoddi Emyn, John Griffith Jones, Abergele.
Englyn, Arwel Emlyn Jones, Rhuthun; Stori fer, Megan Elenid Lewis, Llanrhystud; Cywydd, Dai Rees Dafis; Soned neu delyneg, Vernon Jones; Tlws yr ifanc, Cai Fôn Davies, Talwrn, Sir Fôn; Talwrn y Beirdd, Tir Myrddin.
Am fwy o lluniau, gweler y Cambrian News, mewn siopau dydd Mercher