Robin Hood
A TREAT for all, young and not so young will be the panto, Robin Hood, at the Memorial Hall on Friday 8 January. Doors open at 6.45pm to begin at 7.30pm.
Eglwysi Annibynnol
YN YSTOD mis Rhagfyr buom yn dathlu’r Adfent a’r Nadolig trwy gynnal amrywiol oedfaon – Oedfa Saith Llith a Charol yn Nanternis gydag aelodau’r cylch yn cymryd rhan. Cyflwynodd plant a phobl ifanc Brynrhiwgaled addasiad o’r ddrama Carol Nadolig. Daeth trigolion yr ardal ynghyd i’r Gwasanaeth Carolau yn Neuadd Caerwedros. Bu plant Ysgol Sul Pencae yn cyflwyno Drama’r Geni gan roi sylw arbennig i ymweliad y bugeiliaid. Ymunodd cantorion o bell ac agos i wasanaeth y Plygain yng Nghapel Towyn. Ac ar fore’r Nadolig ymlwybrodd y tyrfaoedd i addoli’r Baban i Brynrhiwgaled a Phencae a chawsom neges gyfoes gan ieuenctid y cylch. Yn oedfa olaf y flwyddyn yng nghapel y Wern cawsom ein hatgoffa o wir ystyr y dathlu trwy gyfrwng amry-wiaeth o fyfyrdodau, carolau a cherddi, a chawsom ein hannog i rannu goleuni’r Iesu gydag eraill. I roi arweiniad i’r flwyddyn newydd cynhaliwyd oedfa weddi yng Nghapel Maenygroes. Ar ddydd Sul Ionawr 10 cynhelir oedfa Gyfoes yng Nghapel Brynrhiwgaled am 10.30yb ac ymarfer y Gymanfa am 5yp.







Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.