MAE’R enwebiadau nawr ar agor ar gyfer y wobr Gofalu trwy’r Gymraeg 2026.
Mae’r wobr Gofalu trwy’r Gymraeg yn cydnabod ac yn dathlu gweithwyr sy’n gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau pobl drwy ddarparu gofal a chymorth drwy gyfrwng y Gymraeg.
Mae’r wobr yn agored i unrhyw weithwyr gofal cyflogedig sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol, gwaith cymdeithasol neu ofal plant, chwarae a’r blynyddoedd cynnar yng Nghymru sy’n darparu gofal rhagorol drwy gyfrwng y Gymraeg.
Gwahoddir aelodau o'r cyhoedd, cyflogwyr a phobl sy’n gweithio ym maes gofal i enwebu gweithiwr ar gyfer y wobr hon.
Does dim angen i’r gweithiwr siarad Cymraeg yn rhugl, cyn belled â’i fod yn defnyddio'r iaith wrth ddarparu gofal a chymorth – mae ychydig o Gymraeg yn mynd yn bell.
Gwahoddir y rhai sy’n cyrraedd y rownd derfynol, yn ogystal â’u henwebwyr, i seremoni wobrwyo yn Eisteddfod Genedlaethol y Garreg Las, Sir Benfro, ym mis Awst.
Dywedodd Sarah McCarty, Prif Weithredwr Gofal Cymdeithasol Cymru: “Mae’r gallu i dderbyn gofal a chymorth o rywun a all cyfathrebu yn eich iaith yn rhan bwysig o gael gofal o ansawdd da, sy'n llawn urddas.
“Nod y wobr hon yw dathlu’r gweithwyr rhagorol sy’n darparu gofal trwy gyfrwng y Gymraeg – ac i ysbrydoli eraill i ddechrau dysgu, cynyddu eu hyder a defnyddio’u sgiliau Cymraeg yn y gwaith.
“Rydyn ni hefyd yn gobeithio y bydd yn annog mwy o bobl i weld gwerth eu sgiliau iaith wrth ystyried gyrfa werth chweil mewn gofal.”
Cafodd enlillydd y gystadleuaeth y llynedd, Myfanwy Harman, ei dathlu am ei gwaith yn darparu gofal plant o ansawdd uchel i blant lleol ym Merthyr Tudful.
Dewch o hyd i fwy o wybodaeth am y wobr Gofalu trwy’r Gymraeg a sut i enwebu gweithiwr Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â [email protected].
.jpeg?width=752&height=500&crop=752:500)




Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.