YMUNWCH ag S4C yr haf hwn ar gyfer darllediad dihafal o brif ddigwyddiad calendr amaethyddol Prydain – Sioe Frenhinol Cymru.

Bydd y cyfan yn dechrau ar nos Sul 20 Gorffennaf – noswyl y Sioe - gyda rhaglen Rhagflas y Sioe am 21:00 yn cynnig blas o foliant y maes.

Rhwng dydd Llun 21 a dydd Iau 24 Gorffennaf, bydd pedair ffrwd fyw ar blatfformau digidol S4C yn caniatáu’r gwylwyr i ddilyn holl gystadlaethau’r Prif Gylch, Cylch y Gogledd, Cylch y De a’r Cylch Canol o 08:00 ymlaen. Mae’r cyfan i’w gweld ar sianel YouTube @YSioeS4C, tudalen Facebook @S4Csioe, ac S4C Clic.

Eleni am y tro cyntaf hefyd bydd modd mynd yn ôl ar ffrwd fyw S4C Clic i ail-wylio’r cystadlu, neu wylio’r cyfan eto am hyd at dri diwrnod (wrth wylio ar gyfrifiadur neu liniadur), felly bydd modd dal pob eiliad o’r cyffro.

Yn ogystal bydd criw cyfarwydd o gyflwynwyr yn dod â holl hwyl y maes yn fyw ar raglen Y Sioe, ar S4C ac S4C Clic rhwng 09:00 a 17:00 bob dydd, gyda sylwebaeth ac isdeitlau Saesneg ar gael. Ac os nad yw hynny’n ddigon, bydd cyfle i gael trosolwg o ddiddanwch a digwyddiadau’r diwrnod bob nos ar raglen uchafbwyntiau S4C am 21:00.

Yn hen law â’r Sioe, Nia Roberts fydd yn arwain ar y cyflwyno eleni, a hynny yng nghwmni Alun Elidyr, Ifan Jones Evans, Meinir Howells, Aeron Pughe, Hannah Parr a Heledd Cynwal wrth iddynt grwydro rhwng y cystadlu, y gerddoriaeth a’r gweithgareddau lu. Ifan a Mari Lövgreen wedyn fydd yn edrych yn ôl ar uchafbwyntiau’r diwrnod gyda’r hwyr.

“Dwi’n cofio dod i’r sioe yn grwt bach gyda Mam a Dad, a mynd o gwmpas yn gweld popeth,” meddai Ifan Jones Evans, sy’n wyneb cyfarwydd ar S4C ac yn ffarmwr balch.

“Roedden ni’n mynd yn flynyddol fel mae rhai pobl yn mynd i’r Eisteddfod! Felly fydden ni yma beth bynnag, ac er fod e’n swnio fel cliché mae e’n fraint cael bod yma’n cyflwyno; rwy’n gwerthfawrogi’n fawr.”

Er mai pencampwriaeth y tîm o bump yng nghylch y gwartheg a’r ffeinal yn y sied gneifio yw uchafbwyntiau’r sioe i Ifan, mae’n prysur bwysleisio bod mwy i’r sioe na dim ond y da byw.

“Mae’n sioe i bawb cofia, does dim rhaid i ti ddod o gefndir amaethyddol. Mae gen ti’r pentre bwyd anhygoel, mae yna lwyfan i fandiau ac artistiaid, mae gen ti’r ardal arddwriaethol. Wir, ma' fe’n ddiwrnod gwych i’r teulu cyfan.”

Cyhoeddwyd yn gynharach eleni na fyddai adran ddofednod yn y Sioe yn dilyn achosion o ffliw adar, na chwaith unrhyw dda byw o Loegr a’r Alban oherwydd achosion o glefyd y tafod glas.

“Ydi, mae e’n siom, ond mae heriau yn dod i’r byd amaeth yn gyson, ac fel diwydiant ry’n ni’n gorfod addasu a ry’n ni wastad yn llwyddo i wneud hynny, a dyw eleni’n ddim gwahanol,” meddai Ifan, sydd hefyd yn cyflwyno cyfres Cefn Gwlad ar S4C.

“Dwi’n siŵr y down ni nôl yn gryfach; mae’r diwydiant yn mynd o nerth i nerth. A bydd e’n wych cael gweld o gorau o Gymru yn mynd benben â’i gilydd o ran y da byw. Yn sicr fe fydd y safon cystal ag erioed.”

Ar gyfer holl fanylion darlledu Sioe Frenhinol Cymru ar S4C, ewch draw i S4C.cymru/sioe.