Madam,

Yn dilyn erthygl yn y Cambrian News (20 Rhagfyr) am ganolfannau iaith y cyngor, rydym yn awyddus i’w wneud yn glir fod yr awgrym ‘y gallai hwyr-ddyfodiaid beidio derbyn cyrsiau iaith Gymraeg’ yn gamarweiniol.

Mae’r cyngor yn edrych ar sut gallwn ddygymod gyda llai o arian grant gan y Llywodraeth tuag at y canolfannau. Ond fel sydd wedi ei nodi eisoes gennym, byddwn yn sicrhau y bydd unrhyw blant sy’n hwyrddyfodiad i’r sir yn parhau i dderbyn y gefnogaeth bwysig yma yn y canolfannau.

Yn gywir,

Garem Jackson,

Pennaeth Addysg, Cyngor Gwynedd.