Ala Road
MORNING worship at the English Presbyterian Church this Sunday, 28 February, will be led by Rev Edmund Owen, Porthmadog.The service starts at 11.15am and a warm welcome is extended to all.
Aelwyd Chwiorydd
LLYWYDDWYD cyfarfod o Aelwyd Chwiorydd y Drindod nos Fawrth, 16 Chwefror, gan Elsie Hughes.Hi hefyd arweiniodd y defosiwn dechreuol. Derbyniwyd ymddiheuriad am ei habsenoldeb oddi wrth Jane Lloyd.Gwr gwadd y noson oedd y gwenynwr J R Jones, Bryncroes, ac yn ddifyr iawn bu’n sôn am gadw gwenyn a gwneud mêl.
Roedd wedi dod ag eitemau o offer gydag ef, yn cynnwys cychod gwenyn, rhai gweigion wrth gwrs! Eglurodd y gwahanol fathau o wenyn mewn cwch, sef y Frenhines – benywaidd, wedi datblygu ac yn dodwy; y gweithwyr, benywaidd ond heb ddatblygu a’r gwenyn gormesol gwrywaidd – does dim llawer o’r rhain mewn cwch lwyddianus. Cafwyd nifer o gwestiynau o’r gynulleida a thrafodaeth fywiog fel roedd y sgwrs yn mynd yn ei blaen.Diolchwyd yn gynnes iddo am sgwrs addysgol a difyr gan Morfydd Roberts. Diweddwyd gyda phaned dan ofal Christine Jones ac Eirlys Jones.
Oedfaon/Services
ST JOSEPH’S: Friday, 3.30pm, Evening Prayer; Saturday, 6.30pm, Offeren (Welsh Mass); Sunday, 11am, Mass.St Peter’s: Sunday, 11am, Morning Prayer/Boreol Weddi; Wednesday, 10.30am, Eucharist.Capel Seion: 10yb, y Parch Peter Rodgers, Criccieth.Capel Penlan: 10yb, y Parch Casi Jones, Clynnog.Crynwyr: Nos Iau am 7.30yh yn y Drindod.
Dydd Gweddi Byd Eang
ELENI cynhelir gwasanaeth undebol Dydd Gweddi Byd Eang y Chwiorydd yn festri Capel Penlan brynhawn Gwener, 4 Mawrth, am 2yp.Paratowyd gwasanaethn eleni gan chwiorydd Cristnogol Ciwba ar y testun ‘Derbyniwch blant, derbyniwch fi’. Bydd croeso cynnes i unrhyw un sy’n dymuno dathlu’r Dydd Gweddi. Darperir paned ar derfyn y gwasanaeth.
Chwiorydd Penlan
BYDD y cyfarfod nesaf i ddathlu Gwyl Ddewi ar brynhawn Llun, 7 Mawrth, yn festri’r capel am 2yp.Edrychir ymlaen i gael sgwrs a chân yng nghwmni Robert Arwyn, y cerddor a chyfansoddwr adnabyddus.Mae croeso i unrhyw un ymuno â’r aelodau yn y cyfarfod hwn.
Capel y Drindod
DYDD Iau, 25 Chwefror: 10yb, Te a Thost yn Festri Berea, Efailnewydd.Dydd Gwener, 26 Chwefror: 10yb, Cyfarfod Gweddi Undebol yn Festri’r Ala.Dydd Sul, 28 Chwefror: 10yb a 5yh, Oedfaon yng ngofal y Parch Edmund Owen. Ysgolion Sul.Dydd Llun, 29 Chwefror: 6yh, Clwb y Plant; 7.30yh, Oedfa Un-debol y Grawys yn Eglwys Sant Joseff.Dydd Mawrth, 1 Mawrth: 7yh, Aelwyd y Chwiorydd.Dydd Mercher, 2 Mawrth: 7yh, Clwb Ieuenctid.
Lent
THE THIRD in the series of United Lenten services will be held at St Joseph’s Church on Monday, 29 February, at 7.30pm. This will be a bilingual service under the title of ‘I am the Bread of Life’ from the Gospel according to St John.







Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.