Bydd cyfle i ddysgwyr fwynhau sioe ddwyieithog newydd sbon o’r enw Petula pan fydd yn mynd ar daith o amgylch theatrau Cymru ym mis Mawrth yn cynnwys Aberystwyth a Bangor.
Cafodd y sioe ei datblygu gan National Theatre Wales, Theatr Genedlaethol Cymru ac August012, ac mae’n addasiad newydd o waith Fabrice Melquiot.
Mae’r sioe yn dilyn hynt cymeriad Pwdin Evans wrth iddo fynd ar antur i’r gofod er mwyn chwilio am ei gyfnither coll, Petula, ac er mwyn canfod ateb i’r cwestiwn mawr: sut yn y byd wyt ti fod i dyfu fyny a phopeth o dy gwmpas di’n cwympo’n ddarnau?
Bydd yn bosib i ddysgwyr ar bob lefel dysgu i fwynhau Petula gan ei bod yn sioe ddwyieithog ac yn cynnwys uwchdeitlo.
Yn ogystal, bydd cyfle i ddysgwyr wrando ar sgyrsiau dwyieithog a fydd yn cael eu cynnal ar ôl dau berfformiad.
Bydd y rhain yn cael eu cynnal gan Helen Prosser, cyfarwyddwr dysgu ac addysgu’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, yn Theatr y Sherman, Caerdydd ar nos Wener, 18 Mawrth, a chan Eirian Conlon, swyddog cefnogi dysgwyr y Ganolfan, yng nghanolfan Pontio, Bangor ar nos Wener, 25 Mawrth.
Bydd gostyngiad o £1 ar docynnau pobl sy’n cymryd rhan yng nghynllun Siarad y Ganolfan, sy’n paru dysgwyr lefel Canolradd gyda siaradwyr Cymraeg.
• Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth Arts Centre, 22-23 Mawrth, 01970 623232, aberystwythartscentre.co.uk. Pontio, Bangor, 25-26 Mawrth, 01248 382828, pontio.co.uk







Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.