Er na fu cystadlu ar lwyfan yn neuadd y pentref eleni , bu pwyllgor Eisteddfod Lenyddol Llanarth yn falch iawn o fod wedi gallu cynnal Eisteddfod Lenyddol eleni.

Nodir fod 125 o ddarnau o waith unigol wedi dod i law rhwng y pedair cystadleuaeth a rheini wedi cyrraedd o bob cwr o Gymru - a thu hwnt.

Mae trefnwyr yr eisteddfod yn diolch am y gefnogaeth ac i’w beirniad, Eurig Salisbury am ei waith yn didoli’r cyfan.

Dyma’r canlyniadau:

Enillydd Tlws yr Ifanc oedd Sioned Howells o New Inn, Pencader, Sir Gar.

Yn gyn ddisgybl o ysgolion cynradd New Inn a Llanllwni ac ysgolion Uwchradd Dyffryn Teifi a Bro Teifi, aeth Sioned ymlaen i astudio Bydwreigiaeth ym Mhrifysgol Abertawe a bellach mae’n gweithio fel bydwraig yn Ysbyty Glangwili Caerfyrddin.

Mae Sioned yn wyneb a’n enw cyfarwydd i bawb yn Eisteddfod Llanarth gan iddi fod yn llwyddiannus mewn amryw o gystadlaethau llwyfan dros y blynyddoedd ac mae’n gyn enillydd cadair yr eisteddfod hefyd.

Mae’n wyneb cyfarwydd yn genedlaethol hefyd gan mai Sioned oedd prif lenor eisteddfod T yr Urdd eleni.

Yn fuddugol yng nghystadleuaeth y Gerdd Ddigri oedd John Meurig Jones, Aberhonddu ac ef hefyd ddaeth i’r brig yng nghystadleuaeth y Limrig.

Enillydd y Frawddeg oedd Kelly Hanney, Cwm Rhondda.