Capel y Fadfa

Y PARCH Wyn Thomas fu’n gweini’r cymun fore Sul diwethaf a chafwyd neges fwriadol a chyfaddas.

Estynnodd ddymuniadau da i Gwenllian, Ty’r Ysgol ar ennill £1,500, sef Ysgoloriaeth Artist Ifanc Eisteddfod Genedlaethol Sir Fynwy am waith sy’n cyfuno gwead o ddarluniau a chlipiau ffilm. Bwriad Gwenllian oedd cwestiynu sut mae’r capeli yn ei hardal wedi mynd yn llai ac yn araf ddirywio yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Cofiodd hefyd am Cen ac Enfys, Ty’r Ysgol wrth iddynt ddathlu eu Priodas Ruddem yn ddiweddar.

Hefyd soniodd am y fraint a gafodd Megan wrth iddi gael ei derbyn i’r orsedd yn Eisteddfod Genedlaethol yn Y Fenni. Adnabyddir hi yn yr orsedd fel Megan Llaindelyn. Yr un oedd y dymuniadau i Emyr, Nantyglyn a Cen, Ty’r Ysgol, ar iddynt dderbyn tystysgrif am eu gwaith gwirfoddol i Eisteddfod Capel y Fadfa dros flynyddoedd maith.

Derbyniwyd y dystysgrif adeg cyfarfod flynyddol y Gymdeithas yn yr Eisteddfod Genedlaethol.

Rydym fel cynulleidfa yn dal i feddwl am Oliver Heddfan a John Brynlluest gan fod y ddau yn Ysbyty Glangwili ar hyn o bryd.

Atgoffwyd pawb am drip y chwe chapel ddydd Sul nesaf lawr i Gapel Gellionnen, pryd y bydd y Parch Alun Wyn yn arwain y Gwasanaeth Werin Flynyddol yno.

Os oes unrhyw un am fynd, i gysylltu gyda’r gweinidog mor fuan â phosib.Susan Davies oedd wrth yr organ. Ni fydd oedfa nawr yn y capel tan 11 Medi.

Canu Gwlad

BYDD Dafydd a Lisa yn ôl yn diddanu, gyda Lliwen ar yr allweddellau, yng Nghlanyrafon nos Sadwrn.

Capel Pisgah

CYNHELIR barbeciw gofalaeth y Parch Carys Ann yn festri Capel Glynarthen nos Wener am 7yh. Dewch yn llu, bydd holl elw’r tuag at Llyfrau Llafar Cymru.

Sioe

ENILLODD Alaw Silvestri-Jones Dlws Coffa Gwenan, Maes yr Einion yn Sioe Caerwedros ddydd Sadwrn diwethaf am ei darlun ar y thema ‘Y Goedwig’ yn adran disgyblion cynradd.

Miri Medi

NOS Sadwrn, 10 Medi, cynhelir noson llawn hwyl i’r teulu cyfan yn y Neuadd Goffa i ddechrau am 6yh yr hwyr. Ras peli, swper dau gwrs ac adloniant i ddilyn gyda Dafydd Pantsod a Rhydian Brynog. Tocynnau £10 oedolion, £5 i blant oed uwchradd, £2 i blant oed cynradd, ar werth oddi wrth Gwyneth (590482), Enfys (580389), Nia (590289) neu Teleri (590827); ewch ati i archebu rhai mor fuan â phosib.

Cymdeithas Henoed

CYNHALIWYD trip a chinio Cymdeithas Henoed y pentref ddydd Iau diwethaf, gan adael y pentref am 10.30yb.

Eleni ymwelwyd ag amgueddfa a thref Caerfyrddin, cyn dychwelyd i Dalgarreg erbyn 5.30yh am swper yn Nhafarn Glanyrafon.

Yn ôl yr arfer roedd pawb i gyfrannu at gostau’r bws, ond roedd y swper am ddim i’r rhai oedd yn 70 oed a throsodd ac yn byw o fewn cyfeiriad post Talgarreg. Cafwyd trip pleserus iawn a chyfle i gymdeithasu dros bryd o fwyd. Diolch i’r trefnwyr.