MAE llwyddiant y gyfres newydd Y Cyfweliad wedi arwain at benderfyniad S4C i gomisiynu dwy gyfres arall yn syth.

Fersiwn Gymraeg o’r gyfres The A-Talks, neu The Assembly, yw Y Cyfweliad – fformat sydd wedi ei werthu ar draws y byd.

Yn y gyfres, mae criw o 30 o holwyr sy’n awtistig, niwro-wahanol, a/neu sydd ag anableddau dysgu yn cael cyfle i holi person adnabyddus – a does dim cyfyngiadau i’w cwestiynau.

Cafodd y gyfres gyntaf ei lansio ar S4C ar Ddydd San Steffan gyda phennod emosiynol y canwr Dafydd Iwan.

Ers hynny, mae’r cyn-chwaraewr rygbi Mike Phillips, a’r gantores a chyflwynydd radio Bronwen Lewis, wedi cael cyfweliadau gonest a ffraeth gan y criw o holwyr.

Bydd y gyfres gyntaf yn dod i ben nos Fawrth gyda’r gantores a’r cyflwynydd teledu Elin Fflur yn ateb cwestiynau yn hytrach na’u holi, fel mae’n gwneud ar soffa Heno.

Cafodd y cyhoeddiad am ddwy gyfres arall ei wneud mewn dangosiad o’r bennod olaf ym Mlaenau Ffestiniog, lle’r oedd cyfle i ddathlu gwir sêr y gyfres, sef yr holwyr gwych.

Mae'r gyfres gyntaf o Y Cyfweliad wedi perfformio'n dda ar draws platfformau S4C, gydag ymateb wych gan ein cynulleidfaoedd.

Mae fformat y sioe yn addasiad o'r gyfres Ffrengig Les Rencontres du Papotin, a grëwyd gan Kiosco TV a Quad Ten ac wedi’i ddosbarthu gan Can’t Stop Media, a lansiwyd yn 2022 ar France 2.

Dywedodd Llion Iwan, Prif Swyddog Cynnwys S4C: “Mae’r ymateb i’r gyfres arbennig hon wedi bod yn rhyfeddol, y cynhesrwydd tuag at yr holwyr a’r cymeriadau sydd yn cael eu holi yn ysgubol.

“Wrth gomisiynu dwy gyfres arall rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr at weld pa gwestiynau fydd yr holwyr yn eu codi tro nesaf.

“Er mae seren sydd dan sylw ymhob rhaglen, mae’r sêr sy’n eu holi’n disgleirio ac wedi cyffwrdd â phawb sydd wedi gwylio. Diolch yn fawr iawn iddyn nhw a’u teuluoedd.”

Ychwanegodd Bethan Griffiths, Prif Weithredwr Cwmni Da: “Rydym yn falch iawn o ennill nid un, ond dwy gyfres newydd o Y Cyfweliad, ar ôl yr ymateb anhygoel i’r gyfres gyntaf, sy’n destament i waith y tîm cynhyrchu arbennig.

“Mae’n gyfres sy’n dod â gwylwyr o bob oed at ei gilydd i wylio gohebwyr doeth yn gofyn y cwestiynau ‘da ni gyd isio’u gofyn i fawrion ein cenedl, o’r llon i’r lleddf. Allwn ni ddim disgwyl i weld pwy fydd yn cael eu holi nesaf.”