THE latest community news from around Tregaron.
Clwb Ffermwyr Ifanc
Ddaeth rhai aelodau CFfI Tregaron gynrychioli’r sir yn y Sioe Frenhinol.
Daeth Cari Davies yn ail am osod blodau dan 16, a Steffan Thomas a Thomas Morgan yn ail yn y gystadleuaeth treialon cwn defaid.
Braf gweld aelodau ifanc y clwb yn llwyddo yn eu blwyddyn gyntaf o gystadlu.
Diolch i noddwyr ein crysau chwaraeon newydd sef, TTS, Siop y Bont, Pontrhydfendigaid a Wayne Williams Autos.
Bu’r aelodau’n gwisgo’r crysau newydd yma wrth iddynt gystadlu yn niwrnod chwaraeon CFfI a hefyd yn ystod cystadleuaeth ‘Tug of War’ a gynhaliwyd yn Llanddewi Brefi yn ddiweddar.
Bu’r tîm yn llwyddiannus wrth ennill 3 ‘pull’ i 0 yn erbyn clwb Llanwenog.
Clwb Cerdded Tregaron Walking Club
THE next walk is scheduled for 6 August and is called ‘The Three Fans’.
The leaders are Andrew and Helen McConochie, 07854 088142/07890 767511.
Join us for a strenuous 13-mile circular walk with over 3,000 feet of ascent and taking in the summits of Fan Llia (6,322m), Fan Nedd (663m) and Fan Gyhirych (725m).
We will visit the Monolithic standing stone of Maen Llia which has stood for over 4,000 years and also Maen Madoc which sits alongside the Roman Road of Sarn Helen.
From the three summits we will be afforded fantastic views of the surrounding Brecon Beacons as well as Carmarthen Fans.
The walk is graded a grade D - very hard walk which should last approximately seven hours with an ascent of 3,000ft/915m, and the meeting point is at 8am outside Lampeter Surgery, behind Lloyd’s Chemist.
Should you wish to become a member of Clwb Cerdded Tregaron Walking Club then please feel free to give Dafydd, the secretary a ring on 01974 298150.
Capel Bwlchgwynt
CYNHELIR oedfa ddydd Sul, 31 Gorffennaf am 5yh dan ofal Parch Dilwyn Jones, Aberaeron.
Oedfa Deuluol
Cynhaliwyd oedfa deuluol fore Sul, 17 Gorffennaf, dan ofal Parch Carwyn Arthur.
Adroddwyd y 23 salm gan y plant, a chafwyd sylwadau pellach gan y gweinidog.
Dangoswyd fideo fer yn dangos diffyg cyfleusterau tai bach a dwr glân sydd gan y bobl yn Uganda, ac fe’n synnwyd i weld plant bach yn gorfod cario dwr am filltiroedd.
Ceir rhagor o fanylion am y prosiect yma pan gynhelir Taith Gerdded yr Ofalaeth ym mis Medi.
Rhoddwyd yr emynau allan gan Ianto James, Mabli Dark, Carys Down, Elin a Mari Williams, a darllenwyd rhan o’r ysgrythur gan Gwenno a Megan Dark.
Casglwyd gan Anni Grug a Twm James, a chyfeiliwyd gan Gwyneth Davies. Diolchwyd i’r plant am eu gwaith da gan Catherine Hughes.
Rydym yn ymhyfrydu fod Gwenno Dark yn Frenhines y Carnifal eleni, ac roedd Iago Evans, Malen Jenkins ac Elen Rooke hefyd yn rhan o’r osgordd.
Hefyd daeth y plant yn fuddugol gyda fflôt ‘Cewri Cymru’. Bu’n brynhawn pleserus gyda llawer o blant yr Ysgol Sul yn cystadlu ac roedd yr holl wisgoedd yn werth eu gweld.
Byddwn fel Ysgol Sul yn cael gwyliau dros yr haf, ac yn ail gychwyn ar brynhawn Sul, 11 Medi am 2yp.
Mae croeso cynnes i bawb, a byddwn yn falch iawn o weld plant newydd yn ymuno gyda ni.
English Methodist Church
THE service on Sunday, 31 July will be held in Bryntirion Centre at 2pm, led by the Rev Roger Hides. A warm welcome to you all.
If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]







Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.