Enillodd tîm cwis Ysgol Sul Capel Bethlehem, Dihewyd, Tarian Rhanbarth Ceredigion, yng Nghapel Mair Aberteifi. Aelodau’r tîm oedd: Cerys Jones, Gwenan Owen, Rhun a Gruffudd Crimes.

Hefyd, bu’r canlynol yn llwyddiannus yn yr arholiad yn ddiweddar,sef: Cerys Jones, Gruffudd a Non Crimes, Dafydd Jones, Fflur McConnell a Rhys Jones.