Clwb y Berch

DAETH 2015 i ben yn llwyddiannus gyda thrip ar fws Caelloi i Landudno i wneud siopa Nadolig ym mis Tachwedd.

Yna ym mis Rahgfyr cafwyd cinio Nadolig ardderchog yn nhafarn Glyn-y-Weddw, Llanbedrog i gloi gweithgareddau’r flwyddyn.Diolch i Enid a Laura am eu trefniadau trylwyr. Edrychir ymlaen i groesawu aelodau hen a newydd i gyfarfod cyntaf 2016 bnawn heddiw, dydd Iau, 21 Ionawr yng nghwmni Dafydd a William. Cynhelir y cyfarfod yn y Neuadd Fach a dechreuir am 2yp.

Sefydliad y Merched

CAFWYD cyfarfod bywiog a thra mwynhaol i gychwyn rhaglen y flwyddyn nos Iau, 14 Ionawr. Llywyddwyd gan Margaret Lloyd Jones a chyflwynodd Beryl Jones o Chwilog yn wraig wadd. Roedd Mrs Jones wedi dod ar ran ei phriod, Eryl a oedd yn methu dod. Yn ei amser hamdden mae Eryl yn ffotograffydd dawnus ac roedd gan Beryl gasgliad hyfryd o luniau a dynwyd ganddo ef. Rhannwyd yr aelodau i ddau dîm a chafwyd cwis ‘Holi ac Ateb’ yn seiliedig ar y lluniau. Roedd llawer ohonynt wedi eu tynnu o gwmpas ardaloedd Abererch, y Ffôr, Llanaelhaearn a Llithfaen ac yn cynnwys hefyd lluniau o bobl yr ardal.Cafwyd cryn hwyl a chrafu pen wrth chwilota a chesio dyfalu, yn enwedig gan fod amryw ohonynt wedi eu tynnu o onglau gwahanol a diddorol.Mawr fwynhawyd y cwis a diolchwyd yn gynnes i Mrs Jones gan y llywydd.Darllenwyd y llythyr misol a’r cofnodion a chymerwyd archebion ar gyfer Yma a Thraw, cylchgrawn y Mudiad. Hysbyswyd yr aelodau bod cyfraniad blynddol wedi ei roi i’r neudd gan y gangen a gan y tîm dartiau.Clywyd bod gwahoddiad wedi ei dderbyn i gyfarfod o gangen Chwilog ar 4 Mawrth pryd y disgwylir Angharad Thomas yn wraig wadd. Cafwyd trafodaeth ynglyn a rhaglen y flwyddyn i ddod â diweddwyd y cyfarfod gyda phaned dan ofal Margaret Lloyd Jones a Dilys Pritchard Jones. Rhoddwyd gwobr y raffl gan Ann Hughes.Bydd y cyfarfod nesaf nos Iau, 11 Chwefror.

Oedfaon/Services

ST CAWRDAF’S: 9.30am, boreol weddi / morning prayer.Capel Isa: 5yh, Parch W Bryn Williams, gweinidog.