Mae darn arbennig o waith celf sy’n seiliedig ar ddarlith ddylanwadol Saunders Lewis ‘Tynged yr Iaith’, a draddodwyd ar y radio 60 o flynyddoedd yn ôl i ddydd Sul, yn cael ei arddangos ym Mhlas Glyn y Weddw.

Mae ‘Tynged yr Iaith’ gan yr artist o Ben Llŷn, Sian Parri yn ailgyflwyno proffwydoliaeth Saunders Lewis. Roedd Saunders Lewis yn rhagweld y byddai’r “ffigurau’n sioc ac yn siom i’r rhai ohonom sydd yn ystyried nad Cymru fydd Cymru heb y Gymraeg”. Rhybuddiodd y gallem weld terfyn ar y Gymraeg yn iaith fyw yn fuan yn nechrau’r unfed ganrif ar hugain os na fyddai chwyldro a newid ar y drefn.

Cloc ydi’r darn celf efo staen arno ar ffurf yr ardaloedd oedd gyda mwy na 80 y cant o siaradwyr Cymraeg yn 1962, ond sydd wedi diflannu bellach. Mae’r bysedd ychydig funudau cyn hanner nos, gyda enw’r gwneuthurwr S. Lews Tynged yr Iaith a ‘80 y cant, 1962’ ar yr wyneb. Mae ynddo sŵn tâp o’r tu mewn efo detholiad o’r ddarlith, yn gymysg â sŵn y cloc yn tician a chalon yn curo a’r ddau’n arafu i beidio â bod.

Derbyniodd ‘Tynged yr Iaith’ wobr Ivor Davies a gwobr Josef Herman (Gwobr y Bobl) yn Eisteddfod Genedlaethol 2019.

Mae’r darn yn ran o arddangosfa o waith Sian sydd yn cael ei harddangos ym Mhlas Glyn y Weddw, yn dwyn y teitl ‘Gwreiddiau’ ac yn adeiladu ar lwyddiant y darn ‘Tynged yr Iaith’ yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Mae ei gwaith yn cyflwyno a chyfleu ymdeimlad o Gymreictod a gwell dealltwriaeth o werth yr iaith a’n hanes. Roedd ei gwaith cynnar yn defnyddio delweddau o gromlechi meini hirion a bryngaerau gyda barddoniaeth, i gyfleu ymdeimlad o Gymreictod a gwell dealltwriaeth o werth yr iaith.

Bydd yr arddangosfa i’w gweld ym Mhlas Glyn y Weddw tan yr 20fed o Fawrth. Hefyd yn arddangos yn yr oriel ar hyn o bryd mae Catrin Williams, Katy Mai Webster ac Elin Hughes.