Ar nos Wener, 9 Chwefror daeth criw da o aelodau Cylch Cinio Aberystwyth ynghyd i fwynhau noson gymdeithasol.

Y lleoliad tro yma oedd Poppy’s yn Capel Dewi a diolch yn fawr iddynt am ei parodrwydd i baratoi swper ar ein cyfer. Cawsom groeso cynnes a bwyd da.

Y gŵr gwadd ar y noson oedd yr athro Geraint Jenkins o Aberystwyth.

Mae Geraint yn enedigol o Benparcau. Bu yn darlithio yn Hanes Cymru yn Mhrifysgol Aberystwyth am 25 mlynedd.

Aeth ymlaen wedyn yn 1993 i swydd fel Cyfarwyddwr Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd, Prifysgol Cymru tan iddo ymddeol yn 2008.

Mae hefyd yn Gymrawd yr Academi Brydeinig a Chymdeithas Ddysgedig Cymru. Mae wedi bod yn brysur hefyd fel awdur yn y Gymraeg a Saesneg. Bu Geraint yn olygydd ar gyfres o lyfrau ar hanes Cymru sef Cof Cenedl.

Daeth y gyfers i ben wrth i Geraint ymddeol ar ol cyhoeddi 24 o gyfrolau. Tipyn o gamp!

Mae Geraint yn gefnogwr brwd o Glwb Peldroed Abertawe ac fe yw awdur y gyfrol ‘Proud to be a Swan’ sef hanes Clwb Peldroed Abertawe 1912-2012.

Cafwyd sgwrs hynod o ddiddorol am filltir sgwar Geraint sef Penparcau.

Mae yn amlwg fod yr ardal yma yn agos iawn i’w galon.

Roedd clywed hanes Penparcau o’r dyddiau cynnar hyd heddiw yn ddifyr dros ben.

Tybed faint oedd yn gwybod mae City Road oedd yr enw ar y brif ffordd sydd yn mynd drwy Penparcau heddiw?

Nid yw cael cyfyngiadau cyflymder yn beth newydd gan fod cyfyngiad o 10 milltir yr awr mewn grym flynyddoedd yn ôl.

Diolch byth fod Mark Drakeford wedi caniatáu cyfyngiad o 20 milltyr yr awr i ni!

Roedd llawer o’r aelodau yn gyfarwydd iawn a’r cymeriadau roedd Geraint yn son amdanynt.

Braf deall bod caffi yr Hwb yn Penparcau wedi cael ei enwi erbyn hyn yn Caffi Gwenallt.

Llyfr diweddaraf Geraint yw Hiwmor Tri Chardi Llengar sef Moc Rogers, Tegwyn Jones a Hywel Teifi.

Cymerodd nifer o’r aelodau y cyfle i brynnu y llyfr a cael ei lofnodi gan yr awdur. Siwr ei bod yn ei ddarllen yn barod!

Talwyd y diolchiadau gan Hywel Wyn Jones.

Byddwn yn cwrdd nesaf ar nos Wener, 8 Mawrth yn Clwb Pêl-droed Penrhyncoch. Croeso i aelodau hen a newydd. Cysylltwch â Huw Williams ar huw_williams1­@­btinternet.com