Mae cân enwoca Dafydd Iwan Yma o Hyd wedi cael ei hail-fastro o’r tapiau gwreiddiol a’i hail-gymysgu gyda lleisiau’r Wal Goch i greu’r trac cyffrous a fydd yn anthem swyddogol ar gyfer ymddangosiad Cymru yng Nghwpan y Byd FIFA 2022.

Gosodwyd meicroffonau cudd yn Stadiwm Dinas Caerdydd yn ystod y ddwy gêm yn erbyn Awstria a’r Wcrain i recordio dros 70,000 o leisiau’r Wal Goch yn cyd-ganu gyda Dafydd Iwan wrth i Gymru greu hanes a mynd drwodd i Gwpan y Byd am y tro cyntaf ers 1958.

Mae’r recordiad hefyd yn cynnwys lleisiau carfan Cymru wrth iddyn nhw ganu’n llawn angerdd gyda Dafydd Iwan ar y cae wedi’r fuddugoliaeth dros Wcrain – a sicrhawyd drwy gic-rydd Gareth Bale.

Recordiwyd Yma o Hyd yn wreiddiol gan Dafydd Iwan ac Ar Log yn 1983 fel cân herfeiddiol i ddathlu goroesiad yr iaith Gymraeg a Chymru er gwaetha’r holl elfennau yn eu herbyn.

Mae’n dathlu goroesiad un o ieithoedd hynaf y byd.

Mae’r gân bellach yn gyfystyr â llwyddiannau diweddar Timoedd Cenedlaethol Cymru, a bu Dafydd Iwan yng nghwmni’r ddau dîm – y merched a’r dynion – i egluro arwyddocâd hanesyddol y geiriau.

Meddai Dafydd Iwan: “Tyfodd Yma o Hyd i fod yn fath o slogan cenedlaethol, a bellach mae’r gân a roddodd fodolaeth newydd iddo yn anthem swyddogol y Tîm Cenedlaethol ar gyfer Cwpan y Byd.

“Mae’n freuddwyd amhosib wedi dod yn wir, ac y mae sain rhyfeddol y Wal Goch ar y trac newydd yn gyffrous ac ysbrydoledig.

“Mae’r fersiwn yma o Yma o Hyd yn cofnodi achlysur arbennig iawn yn hanes Cymru, pan wnaeth angerdd lleisiau gwych y cefnogwyr helpu Cymru i gyrraedd Cwpan y Byd.

“Ni fydd gan unrhyw genedl arall ddim tebyg i hyn i ysbrydoli eu tîm ar y llwyfan mwyaf yn y byd.

“Felly, c’mon Cymru, dewch inni ddangos i’r byd ein bod ni yma!”

Cafodd fideo swyddogol i fynd gyda’r recordiad ei ryddhau ar sianelau digidol Gymdeithas Bêl-droed Cymru ddydd Llun.

Mae Sain wedi rhyddhau’r trac i’w ffrydio a’i lawrlwytho ar y prif blatfformau digidol.

Yr wythnos nesaf, bydd Sain yn rhyddhau fersiwn ar CD a fydd hefyd yn cynnwys recordiad o’r Wal Goch yn canu Hen Wlad fy Nhadau, ac a fydd ar gael mewn siopau ac i’w archebu (pris manwerthu £2.99) drwy www.sainwales.com, gydag unrhyw elw yn mynd tuag at adnoddau pêl-droed llawr gwlad.