BU aelodau CFfI Ceredigion yn disgleirio gydol yr wythnos ac yn mwynhau yn y Sioe Frenhinol.

Ar ôl wythnos o gystadlu brwd rhwng y Ffederasiynau daeth llwyddiant ysgubol i Sir Geredigion wrth gipio cwpan NFU ar ddiwedd yr wythnos am y seithfed tro yn olynnol.

Dyfarnwyd bod Ceredigion yn ennill tlws coffa R L Jones am y mwyaf o farciau yn yr Adran Beirniadu Stoc dros y tair cystadleuaeth.

O ganlyniad i’r holl lwyddiannau hyn sicrhawyd bod Ceredigion yn 1af gyda 140 o bwyntiau gan ennill cwpan NFU, gyda Sir Benfro yn 2il (127 o bwyntiau) a Sir Maesyfed yn 3ydd (122 o bwyntiau).

Am yr holl canlyniadau, gwelwch papur wythnos yma