Madam,

Union eiriau y Cyng Dyfrig Siencyn mewn cyfarfod o Arweinyddion Cynghorau Sir Cymru pan oeddent yn cwrdd y gweinidog Alun Davies AC ac yn trafod ail-strwythuro Cynghorau Cymru yn ddiweddar oedd: “Nid trwy greu strwythurau newydd y mae darparu gwell gwasanaeth i bobl.”

“Clywch, clywch”, meddwn ninnau.

Gobeithio rwan y bydd y Cyng Siencyn yn trosglwyddo yr union eiriau i sylw aelodau ei gabinet yng Nghyngor Gwynedd ac y byddant yn dileu’r syniad o ail-strwythuro’r Gwasanaeth Ieuenctid yng Ngwynedd.

Yr gywir,

Alun a Rhian Puw, Llanuwchllyn.

Have your say on the local issues affecting you - email [email protected] or join in the conversation on our Facebook page