THE latest community news from Aberdaron

Sefydliad y Merched

BU’R sefydliad yn brysur dros yr wythnosau diwethaf.

Yng nghyfarfod mis Chwefror cawsom y fraint o fynd i Becws Islyn i bobi bara dan arweiniad Geraint. Cawsom groeso werth chweil a sgwrs hanes sefydlu’r busnes dros phaned a chacen wedi eu baratoi gan Gillian.

Ar ddechrau mis Mawrth derbynwyd ein gwahoddiad gan sefydliadau Abererch, Chwilog a Sarn ac ambell i ffyddloniaid i ddathlu Dydd G?yl Dewi. Daeth ‘Pwy sa’ meddwl’ atom i’n diddori a chafwyd bwffe ysgafn.

Bu rhai ohonom yn mynychu gwersi croshio yn wythnosol ers mis Ionawr. Llongyfarchiadau i Carys Jones, Cyndyn ar ei llwyddiant yn gystadleuaeth Bowlio Deg y Ffederasiwn wrth gyrraedd y sgor uchaf y noson.

Disgwylir Colin Evans, Aberdaron yn y cyfarfod nesaf ar 1 Ebrill. Croeso cynnes i aelodau newydd.

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]