THE latest community news from Aberdaron
Sefydliad y Merched
CAWSOM noson ddifyr ar ddechrau’r mis yn nghwmni Shelley Murray, Rhoshirwaen yn gwneud torch Nadoligaidd.
Busnes ei hun sy’ gan Shelley yn gwneud trefniadau blodau ar gyfer phob achlysur.
Roedd phawb yn amlwg wedi mwynhau ac yn dotio ar y gwaith gorffenedig, bydd cartrefi’r aelodau werth i’w gweld y Nadolig yma!
Rhoddwyd torch arddangos Shelley i Minnie Williams, aelod hynnaf ein sefydliad a oedd methu bod yn presennol ar y noson.
Talwyd y diolchiadau gan Gwenda Parry, Cartref.
Bydd gwasanaeth carolau sefydlidau Ll?n yn cael ei chynnal yn Eglwys Sant Hywyn eleni ar 11 Rhagfyr am 7yh.
Edrychwn ymlaen at ein swper Nadolig yng Nghlwb Golff, Morfa Nefyn o dan drefniant Carys Jones, Cyndyn, croeso i unrhyw un ymuno.
Cynhelir cyfarfod blynyddol y sefydliad ar 2 Rhagfyr o dan lywyddiaeth Elin Rhys Williams, Penrhos.
If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]







Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.