THE latest community news from Aberdaron
Sefydliad y Merched
DAETH y sefydliad i ben dros yr haf gan orffen gyda helfa drysor wedi ei drefnu gan Helen Jones, Ty’n Lôn Fawr a Carol Jones, Llanllawen Fawr.
Wedi cwbwlhau’r daith cafwyd pryd o fwyd werth chweil yn Tu Hwnt i’r Afon, Rhydyclafdy.
Car Carys Jones, Cyndyn ddaeth yn gyntaf, a chafwyd wobr o £10.
Cydymdeimlwn yn ddiffuant gyda Gwenda Parry, Cartref, llywydd ein cangen yn ei phrofedigaeth o golli ei phriod Glyn.
Llongyfarchwn Catherine Jones, Plas Coch ar enedigaeth ei mab John ac i Ellen ar ddod yn nain, ac i’n ysgrifenyddes Megan Jones ar ddod yn hen nain.
Byddwn yn ail gyfarfod yn mis Medi.
If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]





Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.