THE latest community news from Abererch
Clwb-y-Berch
PRYNHAWN Iau, 21 Medi, daeth nifer dda o’r aelodau i wrando ar Alun, Llên Llyn yn sôn am Cybi, bardd gwlad, awdur, casglwr llyfrau a phostman yn y cylch am flynyddoedd.
Diolchwyd iddo gan Huw, oedd yn ei gofio amdano yn dod i’w gartref, Ynys Wen, fel postman flynyddoedd lawer yn ôl.
Gwasanaeth diolchgarwch fydd y cyfarfod nesaf ar 19 Hydref yn y Neuadd Fach am 2yp. Croeso cynnes i bawb.
Ar dydd Iau, 16 Tachwedd, bydd ein trip i Landudno yn cychwyn o Bwllhelli, 9yb, a 9.15yb o Abererch.
Ceir manylion pellach gan Enid ar Pwllheli 613251.
If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]





Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.