THE latest community news from Blaenau Ffestiniog.

Services

BETHESDA - Rev William Davies, 10am; Bowydd - Children’s service , 10am; Carmel - Rev Dewi Morris, 2pm; Calfaria - Lecture and Carol; Manod Orthodox - Third and Sixth Canonical Hours at 10am followed by the Divine Liturgy of Saint John Chrysostom; St David’s - Morning service at 11am; St Michael’s - Morning service at 9.30am; St Mary Magdalene - Mass at 11am with Bishop Edwin; Holy Cross - Mass at 6pm on Saturday with Bishop Edwin.

Gallery

THE Maenofferen Gallery hosts an exhibition by members of the local Craft Club led by Stephen Owen and it will be coming to an end on 6 January.

Clwb Cerdded

TAITH nesaf y clwb fydd un leol dydd Sul yma gyda Brian Rushworth. Gofynnir i aelodau fod ger Ty Gorsaf am 9yb; mae esgidiau cryf, dillad addas a phecyn o fwyd yn hanfodol i’r daith.

Cymdeithas y Gorlan

BYDD yr aelodau yn cael noson o ‘Llith a Charol’ am 6yh nos Sul, 18 Rhagfyr, a bore Nadolig bydd Rhian Williams yn arwain Cymun Bore y Nadolig yng Nghapel y Bowydd am 9yb.

Choirs

ON Sunday, 4 December, the mixed choir conducted by Wenna Francis Jones and accompanists Gwynn Vaughan Jones and Alwena Morgan were in concert at the Bowydd Chapel, where they were joined by pupils from the Bro Hedd Wyn School, Trawsfynydd and Cerys Hughes on the flugel horn with Iwan Morgan as the compere.

The proceeds of the evening are to be donated to the local committee who are organising the National Gwyl Cerdd Dant which is to be held in the town in 2018.

The Moelwyn Choir, conducted by Sylvia Ann Jones and accompanist Wenna Francis Jones, visited the Bryn Blodau Residential Home at Ffestiniog last Friday, where they entertained the residents and staff with a selection of Christmas carols. To end a busy year of engagements the choir will be at the Royal Oak Hotel, Betws y Coed on 23 December.

Donation

THE Town Council has donated a sum of £100 to Dawns i Bawb (Dance for All).

Advice

ON every Monday between 10am and 1pm, a member of the Citizens Advice Bureau is available at the library to deal with any relevant problems one might have.

Sefydliad y Merched

CYFARFU’R aelodau ym Mhlas Tan y Bwlch am eu cinio Nadolig ar nos Fawrth gyntaf y mis, a da oedd mwynhau mawredd yr adeilad sydd heddiw ar agor i bawb ei ddefnyddio.

Cafwyd gwybodaeth am gyfarfod y Sefydliad yn Echo Arena, Lerpwl ar 6 a 7 Mehefin 2017.

Rhaid dewis mater i’w drin yno allan o’r WI Life a’i roddi i’r ysgrifennydd cyn 10 Ionawr 2017. Hefyd rhaid cofio am gyfarfod blynyddol Cymru ar gae Sioe Mona, Ynys Môn.

Enillwyd y gwobrau misol gan Dylan Coleman, David Jones, Trefnant, Francis Wiliams a Bet Jones. Dechreuir cyfarfodydd misol y flwyddyn newydd ar 24 Ionawr, mae croeso i aelodau newydd i ymuno am 7yh yn yr adeilad ar Rhodfa Wynne.

Policing

DELYTH Edwards and Emma Jones, Police Community Support Officers attended a meeting of the town council, where it was reported that the vast majority of local young people enjoy themselves harmlessly without causing any damage, but one or two were seen climbing on the roof of the view point in Church Street.

In order to prevent this and in case there is a serious accident, the council will need to consider painting anti-vandalism paint on the viewpoint roof.

It is also felt it would be good to again contact Arriva Trains and ask them to reconsider their opposition to install CCTV cameras in their station.

It was reported that the council’s CCTV cameras are a great help to the police in solving crime.

Library

FROM 3 January there are changes to the opening hours of the local library as it will be closed on Tuesday mornings and closing half an hour earlier at 6.30pm on Wednesday afternoons, and half an hour earlier at 12.30pm on Saturdays.

Age Well

TWO volunteers with a combined age of 120 years have raised a huge sum for their charity after completing the ‘scariest experience of their life’.

Jane Battye and Sue Smith, both of Blaenau Ffestiniog (pictured), completed the Zip World Challenge at Llechwedd Slate Caverns last month, raising a mammoth £1,156 in donations.The duo both turned 60 this year, wanted to raise funds for the Age Well group, and are Age Cymru volunteers.

Sue suggested the adrenaline fuelled challenge was the “scariest thing she had ever done” whereas Jane enjoyed the zipping but felt the tightrope bridge to be “more than she expected”.

Both women are delighted to have completed the experience and enjoyed proving that those over 60 can still be adventurous.

Speaking of her thrilling day out, Jane said: “The event raised £1,156 in total and ensures the future of the Age Well group for people over 50 in the area.“The organisation started two years ago and is attended by local residents aged between 50 and 95.“Everyone is made welcome at the Canolfan in the town, every Wednesday between 10am and 3.30pm.

“Special thanks are due to Zip World for their generous donation of vouchers for the adventure and for the training and encouragement on the day.”

Noson wobrwyo Ysgol y Moelwyn

AR ddiwrnod olaf Tachwedd cynhaliwyd seremoni wobrwyo yr ysgol i ddathlu llwyddiannau’r disgyblion.

Roedd y noson yn gyfle i rieni, athrawon ac aelodau o’r gymuned ymfalchïo yn llwyddiannau y bobl ifanc sydd yn ddyfodol i’r gymuned a’r ardal.

Roedd y neuadd dan ei sang ar y noson â phawb yn hynod gyffrous i gael gweld pwy fyddai’n cael eu gwobrwyo am eu gwaith caled.

Agorwyd y noson gan gôr yr ysgol yn canu Yr Adain gydag Rhiannon Bond yn cyfeilio a Wendy Jenkins, pennaeth adran gerdd yn arwain.

Roedd pob math o feysydd yn cael eu gwobrwyo ar y noson; presenoldeb, ymdrech, cynnydd, sgiliau, cyrhaeddiad a chyfraniad cymunedol o’r radd flaenaf.

Mae’r ysgol yn teimlo ei bod hi’n hynod o bwysig bod bobl ifanc yn cyfrannu tuag at y gymdeithas. Noddir gwobr cyfraniad cymunedol yn flynyddol gan Gyfeillion Ysgol y Moelwyn sydd yn cyfrannnu £600 yn flynyddol mewn gwobrau.

Pencampwraig y wobr am gyfraniad gwirfoddol eleni oedd Awel Jones gyda Tomos Heddwyn Griffiths yn ail a Glain Eden Williams yn drydydd. Llongyfarchiadau i’r tri ac hefyd i`r llu o ymgeiswyr safonol.

Cyflwynwyd chwech gwobr goffa eleni, cyflwynwyd gwobr goffa Brymer i Awel Jones. Cyflwynwyd gwobr Goffa Bethan Coleman i Carwyn Griffiths a Tomos Griffiths.

Roeddem yn falch o groesawu Gwilym Price ac Iwan Cynfal Williams i gyflwyno Gwobr Goffa Glyn Price eleni i gydnabod blaengaredd mewn Technoleg. Sion Davies enillodd y wobr hon. Josh Jones enillodd Gwobr Goffa Ian Jones i gydnabod ei lwyddiant ar y maes rygbi. Braf oedd cael cefnogaeth Alfyn Jones yn yr ysgol wrth gyflwyno Gwobr Goffa Rhian Jones i Ceurwyn Jones.

Cyflwynwyd gwobr Awdur Ifanc y flwyddyn (Gwobr Miss Eds) eleni gan Caryl Jones, enillydd 2015 i Heledd Ellis.

Pob blwyddyn mae’r ysgol yn gwobrwyo aelod o’r gymuned sydd wedi helpu’r ysgol a’r gymuned dros y blynyddoedd. Eleni cyflwynwyd Gwobr Cefnogwr Cymunedol i Bini Jones i gydnabod ei chefnogaeth ddiflino i gymuned yr ysgol dros y blynyddoedd. Llongyfarchiadau i bawb ar eu camp a’u llwyddiant.

Hoffai’r ysgol ddiolch i Sharon Jones am ei holl waith caled yn trefnu’r noson, Bini Jones cadeirydd y llywodraethwyr am gyflwyno llawer o’r gwobrau ac i Carys Roberts a Marion Hughes am baratoi’r lluniaeth ysgafn. Noson hynod o hwyliog unwaith eto eleni.

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]