THE latest community news from Blaenau Ffestiniog
Services
BETHESDA: Rev Robert W Griffith.
Bowydd: Rev John Tudno Williams.
Carmel: Rev Ioan Wyn Gruffydd.
Bethel, Ffestiniog: Patrick Young.
Manod Orthodox: Third and Sixth Canonical Hours at 10am followed by Divine liturgy of Saint John Chrysostom.
St Michael’s: Morning service at 9.30am.
St David’s: Morning service at 11am.
St Mary Magdalene: Mass at 11am.
Holy Cross: Mass at 6pm on Saturday.
Defibrillator
HAVING received a letter from the Dolwyddelen Community Council that a new battery for their defibrillator would cost £176 plus VAT, the Blaenau Ffestiniog Memorial Hospital and Community District Nurses League of Friends have agreed to donate the said sum for a new one.
Gallery
THE Maenofferen Gallery hosts an exhibition of the craft work of those who attend the Stephen Owen classes and admission to the library is free during the library’s opening hours.
Health
THE next Health and Wellbeing event will be next Wednesday at 2pm at the library where Celia Brown will give a talk on Tai Chi.
Clwb Nos Fawrth
AR 15 Medi aeth aelodau Clwb Nos Fawrth i Venue Cymru i wylio’r sioe Dirty Dancing ac yna i Westy y Frenhines, Llandudno am bryd blasus.
Diolchwyd i Ann am y trefniadau trylwyr.
Ar 26 Medi cafwyd noson yng nghwmni Jordan Evans o Manod a’i accordion, bachgen ifanc talentog â dawn arbennig ganddo, oedd wedi ennill cerddor y flwyddyn yn Ysgol y Moelwyn.
Dymunwyd y gorau iddo i’r dyfodol a pleser oedd cael ei gwmni.
Gwesteion y te oedd Elin, Margaret a Ceris ac enillwyd y raffl gan Margaret, rhoddedig gan Ceris.
Croesawyd aelod newydd sef Gwenys o Ffestiniog.
Cynhelir y cyfarfod nesaf ar 10 Hydref.
Cyfeillion
WEDI derbyn llythyr gan Nia Williams, swyddog cefnogi partneriaeth o Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr oedd yn dweud ei bod yn awyddus i gyfarfod Cyfeillion yr Ysbyty Goffa ar Gweinyddesau y Gymuned y Blaenau gyda Wyn Thomas, pennaeth cynorthwyo Ardal Gofal Cychwyrinol i rannu manylion diwethaf ynglyn â’r Ganolfan Iechyd newydd yn y Blaenau. Penderfynwyd gwahodd y ddau i gyfarfod nesaf y Cyfeillion ym mis Hydref.
Yn y cyfarfod diwethaf bu Richard Williams, cyfreithiwr lleol, yn egluro yn syml a manwl cyfansoddiad y Cyfeillion a doedd cau yr ysbyty ddim yn golygu fod y Cyfeillion na’i arian yn dod i ben, gan nad oedd gan y Bwrdd Iechyd unrhyw hawl i ymyrryd yn ei gweithgareddau, sy’n dal i helpu yn ariannol unrhyw gymdeithas neu sefyllfa iechyd yn y gymuned, ond nid i unigolion.
Rhaid cadw cyfnodion manwl o bob achos maent wedi cyfrannu atynt a chario ymlaen mae y Gymdeithas, ond os byddai unrhyw newidiadau rhaid cael caniatad y ‘Charity Commission’.
Speed
FOLLOWING a recent site meeting at Ysgol Maenofferen with the head in charge, Gwynedd officer and Town Councillors regarding ways to calm traffic near the school’s entrance as concerns were raised about the safety of the pupils going to and leaving the school, it has been decided to place five speed humps on the road leading to the school.
Cymdeithas Hanes
NOS Fercher, 20 Medi, cynhaliwyd cyfarfod o’r Gymdeithas Hanes.
Diolchodd y llywydd, Robin Davies, i bawb oedd wedi gweithio yn yr arddangosfa eleni a hefyd llongyfarchodd Vivian Parry Williams ar ei lwyddiant yn Eisteddfod Môn yng nghystadleuaeth y limrig.
Yr oedd y noson yng ngofal Gareth Jones, ein ysgrifennydd, a’i destun oedd ‘Mwy o leisiau ddoe’.
Eglurodd ei fod am chwarae pytiau sain a recordiodd ei dad, Ernest Jones, wrth siarad â nifer o gymeriadau diddorol yr ardal, gan eu holi am eu hatgofion am ddigwyddiadau a phersonau o ddechrau’r ganrif.
Tapiwyd y cyfweliadau hyn yn ystod yn 1960au yn bennaf.
Clywsom fel enghraifft lais Syr Wynn Wheldon yn sôn am ei dad y Parch TJ Wheldon a wnaeth gymaint i addysg yn y Blaenau; TH Williams, Paragon yn cael hwyl yn sôn am drafferthion wrth werthu dillad fel nicyrs i ferched; Robert Williams, Benar Road yn dweud am ei hanes fel bachgen ifanc yn gadael i weithwyr y Llechwedd wybod fod streic yn dechrau; Jennie May Ellis yn canu efo’i brodyr; William David Jones (actor yn y ffilm Y Chwarelwr) yn sôn am y gusan enwog ar ben Garreg Defaid; trafferthion Hywel Williams, Bryn Melyn, Llan yn ymlwybro i’w waith yn y chwarel yn y Blaenau a hithau yn eira trwm ar lawr.
Yr oedd nifer o leisiau eraill ac yn amlwg yr oedd y cyflwyniad wedi plesio y gynulleidfa yn arw a chafwyd chwerthin iach.
Diolchodd y llywydd i Gareth am noson mor ddiddorol a hwyliog, gan ryfeddu at ei ddawn yn priodi y lleisiau a recordiwyd gan ei dad efo lluniau o wahanol rannau o’r ardal.
Cynhelir y cyfarfod nesaf ar nos Fercher, 18 Hydref, pryd y bydd Tecwyn Williams yn sôn am ei dad, y dyn busnes adnabyddus T Glyn Williams.
Advice
ON Mondays between 10am and 1pm a representative of the Citizens Advice Bureau will be at the library ready to give any relevant information and no appointments are needed to attend.
Choirs
ON Friday evening the Moelwyn Choir, conducted by Sylvia Ann Jones and accompanist Wenna Francis Jones, were in concert at Betws y Coed with young soloists Awel Jones and Tomos Heddwyn Griffiths and the compere was Gareth Griffiths.
On Saturday evening Sylvia Ann conducted the Rhiannedd y Moelwyn Ladies Choir, with Anwen Davey the accompanist at a concert at Y CellB, with soloists Alaw and Tomos and other guest artistes.
Camera Club
LOCAL photographer Rory Trappe, who is famous for his exhilarating shots of the military jets passing through the Mach Loop, was the guest speaker at the Deudraeth Camera Club’s first meeting of their year’s programme.
If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]







Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.