THE latest community news from Botwnnog.
Sefydliad y Merched
Y SIARADWRAIG wadd mewn cyfarfod o’r gangen leol nos Lun, 6 Chwefror, oedd Netta Pritchard o Fynytho. Croesawyd hi gan y llywydd, Gwyneth Evans.Mewn sgwrs ddifyr eglurodd Mrs Pritchard ei bod yn hoff o fynd ar ei beic o gwmpas ardaloedd Llyn a mynd â’i chamera gyda hi. Dangosodd luniau hyfryd a dynnodd o gwmpas Botwnnog a Mynytho, gan ofyn i’r aelodau ddyfeisio lle roeddynt. Sylweddolodd pawb faint maent yn ei golli wrth deithio mewn car a ddim yn oedi i edrych o’u cwmpas a nodi llefydd diddorol a hyfryd. Mawr fwynhawyd y sgwrs a’r lluniau a diolchwyd iddi am noson gofiadwy. Rhoddwyd gwobr y raffl gan Dilys Jones, a chyflwynodd y wobr i’r siaradwraig i ddiolch iddi.Darllenwyd y llythyr misol a thrafodwyd materion yn codi. Dywedodd y llywydd iddi dder-byn gwahoddiad gan gangen Aber-daron i gyd-ddathlu Gwyl Ddewi gyda hwy yn Aberdaron ar nos Lun, 6 Mawrth, pryd y bydd Nerys Kimberley yn sôn am ei mordaith yn ôl i Aberdaron o America lle bu’n byw ers tro.
Capel Rhydbach
PREGETHIR yng Nghapel Rhydbach ddydd Sul, 19 Chwefror, am 5yh gan Donald Pritchard.
If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]






Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.