THE latest community news from Ceredigion

Cymdeithas Ceredigion

KEES Huysman oedd y siaradwr gwadd a groesawyd i gyfarfod mis Hydref y gymdeithas yng Nghaffi Emlyn, Tan-y-groes.

Cymro Cymraeg o’i ddewis yw Kees, sy’n hanu o’r Iseldiroedd, wedi sefydlu’n lleol fusnes llwyddiannus ac wedi ennill y Rhuban Glas yn Eisteddfod Genedlaethol y Fenni llynedd.

Mae ei lyfr hunangofiannol wedi’i gyhoeddi yn ddiweddar.

Cawsom noson ddifyr wrth i’r dyn gwylaidd a hoffus hwn rannu straeon dwys a doniol am ei fywyd yng nghefn gwlad Cymru, yn enwedig am ei ddyddiau cynnar yn y siop yn Nhre-groes, wrth ymateb i gwestiynau gan lywydd y gymdeithas, Emyr Hywel, cyn-brifathro ysgol y pentref lle cafodd plant Kees eu haddysg gynnar, a chan aelodau eraill.

Priodolodd Kees lwyddiant ei fusnes i’r ffaith ei fod yn y lle iawn ar yr amser iawn ond roedd yn amlwg, wrth iddo ymhelaethu, fod ei weledigaeth, ei sgiliau busnes, a’i ddyfalbarhad yn hollol allweddol wrth ddatblygu menter sydd erbyn hyn yn cynhyrchu hyd at 32,000 o waffles bob dydd.

Wrth gael benthyciadau mawr gan y banc i brynu peiriannau, roedd y dyddiau cynnar, meddai Kees, fel cerdded tightrope ond bellach roedd honno wedi mynd yn styllen weddol lydan.

Dibrisio ei ddawn fel canwr gwnaeth Kees hefyd a’i gamp o ennill y Rhuban Glas llynedd: rhinwedd fawr y fath gystadlaethau eisteddfodol yw eu bod yn agored i bawb a oedd am wneud ei party-piece a dyna’n union a wnaeth yntau. Daeth y llywydd â’r noson i’w therfyn wrth ddiolch i Kees am sgwrsio mor ddidwyll a diddorol.

Gwnaeth annog pob un sydd am ddysgu rhagor am y dyn arbennig hwn i brynu llyfr Kees, Dechrau Canu, Dechrau Wafflo.

Fe fydd cyfarfod nesaf y Gymdeithas yn y Caffi ar nos Sadwrn, 4 Tachwedd.

‘Tribannau’ fydd testun Gregg Lynn, yr Hwntw sy’n byw yng Nghaewedros erbyn hyn.

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]