THE latest community news from Chwilog.

Sefydliad y Merched

LLYWYDDWYD cyfarfod mis Tachwedd gan Ceri ac estynnodd groeso cynnes i’r aelodau oedd yn bresennol, ac i Jean Lane VCO i ddewis swyddogion am y flwyddyn 2017.

Addawodd pawb i aros yn eu swydd bresennol am y flwyddyn i ddod. Llywydd, Ceri; is-lywydd, Ellen; ysgrifennydd, Sheila; trysorydd, Rose; ysgrifennydd y rhaglen, Marilyn; gohebydd y wasg, Ellen; clwb cynilo, Eirlys a gofalu am y raffl, Margaret.

Cafwyd adroddiad o weithgareddau’r flwyddyn ddiwethaf gan Sheila roedd wedi bod yn flwyddyn brysur iawn ac yn llawn o hwyl a sbri, ac i ddilyn cafwyd adroddiad y trysorydd gan Rose.

Yna cafwyd adroddiad y llywydd gan Ceri, a ddiolchodd i pawb am eu cydweithrediad am y flwyddyn diwethaf.

Trafodwyd y llythyr misol a llongyfarchwyd Karen Roberts ar ei anrhydedd am ei gwaith diflino am flynyddoedd i’r Guides, yn Westminster Abbey, Llundain yn ddiweddar.

Cafwyd sgwrs ac ambell i stori wyliog iawn gan Jean Lane. Diolchwyd iddi gan Ceri.

Gwesteion y te oedd Rose a Ceri. Enillydd y raffl; rhoddedig gan Caren oedd Eirlys.

Nos Wener, 2 Rhagfyr, yn y Poacher yng Nghricieth roedd cinio Nadolig y sefydliad.

Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda gan yr holl aelodau i holl drigolion y pentref.

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]