THE latest community news from Criccieth.

Merched y Wawr

CAFWYD noson ddiddorol ac addysgiadol yng nghyfarfod cyntaf y flwyddyn newydd.

Croesawyd ein gwestai, Naomi Jones o Lanystumdwy, yn gynnes gan Catrin Codd, y llywydd.

Daeth Naomi atom i sôn am Barc Cenedlaethol Eryri. Hi yw pennaeth adran addysg a chyfathrebu’r parc, pwy well felly i gyflwyno’r holl ffeithiau diddorol am y parc. Cawsom weld lluniau gogoneddus ac arbennig iawn o wahanol rannau o’r parc.

Y parc sy’n gyfrifol am Blas Tan y Bwlch ers 40 mlynedd ac erbyn hyn mae’r Ysgwrn yn eiddo i’r parc, a phrosiect arloesol i’w gadw’n etifeddiaeth i’r dyfofol yn digwydd ar hyn o bryd.

Mae 20 o wardeiniaid yn gyfrifol am ardal benodol o fewn y parc sy’n ymestyn 35 milltir o’r dwyrain i’r gorllewin a thros 50 milltir o’r de i’r gogledd.

Yn ystod cyfnodau prysur fe’i cefnogir gan dîm o wardeiniad tymhorol. Mae cymaint o atyniadau yn y parc a’r rhain yn cael eu gwarchod gan y wardeiniaid a gweithwyr eraill; tua 130 yw cyfanswm yr holl weithwyr. Gofalir am y llwybrau, y llynnoedd, y glannau, bywyd gwylt a llawer mwy.

Does ryfedd yn y byd felly pam fod y parc wedi’i ddewis unwaith eto gan yr arbenigwyr teithio, ‘Lonely Planet’, fel un o’r lleoedd gorau i ymweld.

Y llynedd hefyd bu ei dynodi yn Flwyddyn Antur Cymru gan y Cynulliad. Rydym i gyd felly yn ffodus iawn o gael byw mewn ardal mor arbennig o hardd ac yn dra diolchgar i Naomi am ein goleuo ar lawer o’r gweithgareddau sy’n digwydd ym Mharc Cenedlaethol Eryri.

Parhaed felly wrth i ninnau hefyd helpu i’w gwarchod wrth annog ymwelwyr i beidio â gadael sbwriel ar ôl ac i gau’r clwydi ar eu hôl.

Diolchodd Catrin i Naomi am rannu’r holl wybodaeth gyda ni a hynny mewn dull mor ddiddorol. Cafwyd paned i ddilyn, wedi ei pharatoi gan Marged Elias a Mair Williams, rhoddwyd y raffl gan Gwen Vaughan Hughes.

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]