THE latest community news from Lampeter

Cylch Cinio

DAETH aelodau’r Cylch Cinio ynghyd ar 4 Hydref, yn y clwb rygbi dan lywyddiaeth Eifion Williams am y cyntaf o bum cyfarfod a gynhelir rhwng Hydref a Mawrth.

Dros yr haf fe lwyddodd yr ysgrifennydd siaradwyr, Twynog Davies, i drefnu rhaglen amrywiol a diddorol ac yn sicr rhoddwyd dechreuad da i’r tymor gan ?r gwadd y noson, Dafydd Llywelyn, comisiynydd yr heddlu a throseddu Dyfed-Powys.

Yr oedd ei gysylltiadau agos â Llanbed yn hysbys i aelodau’r Cylch a chawsant dipyn o’i gefndir personol cyn iddo droi i ddisgrifio dyletswyddau’r comisiynydd.

Y mae’n briod â Cerys ac mae ganddynt bump o blant. Yn enedigol o Foncath, bu’n byw yn Llanfair Caereinion am gyfnod cyn dychwelyd i Geredigion a mynychu Ysgol Dyffryn Teifi yn Llandysul.

Yn ddiweddarach fe raddiodd mewn astudiaethau busnes yng Ngholeg Dewi Sant, Llanbed. Pan grëwyd swydd y comisiynydd tua 2012 fe adawodd yr heddlu i fynd yn ddarlithydd mewn criminoleg ym Mhrifysgol Aberystwyth. Ond pan gynhaliwyd etholiad am y swydd yn 2016 fe benderfynodd gamu i fyd gwleidyddiaeth trwy aros fel ymgeisydd Plaid Cymru am y swydd ac fe’i hetholwyd gyda mwyafrif clir yn un o 40 Comisiynydd Cymru a Lloegr.

Cafwyd crynodeb o hanfodion ei swydd ganddo, sef llunio strategaeth plismona, gosod y cyllid a dal y Prif Gwnstabl i gyfrif - hynny gyda chymorth ei staff o 40.

Esboniodd mai ef sy’n apwyntio’r Prif Gwnstabl a bod ganddo b?er i’w ddiswyddo pe bai angen, a’i fod ef ei hun yn atebol i’r Panel Heddlu a Throseddu.

Nodwyd ganddo fod rhanbarth Dyfed-Powys yn cuddio dwy ran o dair o Gymru’n ddaearyddol ac er bod hynny’n gosod her arbennig o ran plismona yr oedd yn ymfalchïo yn y gwelliannau a fu dan ei ofal yn y dasg o recordio troseddau ac yn asesiadau’r arolygwyr o Heddlu Dyfed-Powys.

Dywedodd ei fod yn gefnogol i’r syniad o ddatganoli plismona i Lywodraeth y Cynulliad.

Swyddogion eraill y cylch am dymor 2018/9 yw: Tim Jones (ysgrifennydd cyffredinol) Haydn Richards (is-lywydd) a Tom James (trysorydd).

Cynhelir cyfarfod nesaf y cylch ar 1 Tachwedd am 7.30yh yn yr un lleoliad pan croesawir Yvonne Evans (Tinopolis) i sôn am ei gyrfa yn y cyfryngau.

Gwasanaeth Diolchgarwch

CYNHELIR Gwasanaeth Diolchgarwch yn Noddfa Sul nesaf, 14 Hydref, am 5yh yng ngofal yr Ysgol Sul. Cymerir rhan gan y plant a’r bobl ifanc ac estynnir croeso cynnes i bawb.

Beekeepers association

THE first meeting of the autumn took place on Tuesday, 11 September, at Cellan Hall.

Chairman Mike Davies gave a summary of what they did over the summer, from holding the beginners course in the spring, to having stands at various events, including Lampeter Food Fair. Apiary sessions over the summer were held every Sunday, and were well-attended by the beginners as well as more long-standing members.

These sessions were made more enjoyable due to the nice weather and it was a very pleasant way to get to know the new members.

Mike then gave a very informative talk on preparing for the winter.

The association holds monthly meetings on the second Tuesday of every month at 8.15pm at Cellan Hall.

St Peter’s Church

SUNDAY, 14 October: 8am, Holy Communion in English; 10.30am, Holy Communion, bilingual.

St Mary’s Church, Maestir: 2.30pm, Harvest Thanksgiving Service.

Public concert

SOLEM String Quartet will perform at 7.30pm on Wednesday, 17 October at the Old Hall, University of Wales Trinity Saint David.

It will be an exciting first preview of their Beethoven and Bartok cycle, commissioned for 2020: Beethoven Quartet Op 18 No 3, Bartok Quartet No 3, Schumann Quartet No 3.

Two children go free with a paying adult.

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]