THE latest community news from Lampeter

Cymdeithas Hanes

THE next meeting of Cymdeithas Hanes Llambed will be on Tuesday, 15 January, at 7.30pm at the University of Wales Trinity Saint David’s Lampeter campus.

James January McCann will talk about “Collecting Welsh Place Names”.

This is an open meeting, which is free to members, with a charge of £2 for non-members.

Merched y Wawr

DECHREUWYD y noson trwy ymweld â chartref preswyl Hafan Deg i ddiddori’r trigolion trwy adloniant o ganu carolau a darllen barddoniaeth am stori y Nadolig, gyda phawb yno yn mwynhau’r canu a chymdeithasu dros paned a mins peis. Yna ymuno â phawb yn Festri Shiloh gyda Elin, y llywydd, yn estyn croeso cynnes i Meinir Wyn Edwards, awdur a golygydd yng ngwasg Y Lolfa. Methodd Meinir ddod yn mis Ionawr y llynedd o achos yr eira trwm.

Magwyd Meinir yn Sir Benfro cyn iddi fynd ymlaeni i Brifysgol Bangor ac ennill gradd mewn cerddoriaeth. Yna mynd i ddysgu i Rhydypennau ac aros yno am 18 mlynedd. Mae’n briod gyda Huw ac mae ganddynt ddau o blant, Dylan ac Efa, ac yn byw yn ardal Aberystwyth.

Pan yn 40 oed penderfynodd Meinir newid cyfeiriad a mynd i weithio fel golygydd yn y Gymraeg yng ngwasg Y Lolfa lle y mae wedi bod bellach ers 12 mlynedd.

Yn ei amser hamdden mae’n hoffi darllen, coginio, canu a theithio.

Mae lleoliad Gwasg Y Lolfa yn hen Swyddfa’r Heddlu yn Nhalybont, gyda tua 22 o fobl yn gweithio yno. Bydd Meinir yn golygu tua 30 o lyfrau yn ystod y flwyddyn, rhai i oedolion a phlant, ond hi yw prif olygydd llyfrau plant. Bu’n siarad am rai o’r llyfrau hynny a daeth a nifer ohonynt i ni i’w gweld a’u prynu. Cawsom wybodaeth am waith amrywiol golygydd sy’n cynnwys edrych ar geisiadau newydd a phenderfynu pwy lyfrau i’w comisiynnu erbyn 2021. Rhaid penderfynu beth sy’n mynd i weithio i’r darllenwyr, er enghraifft, awduron sydd â’u llyfrau wedi ennill yn y Genedlaethol, bywgraffiadau neu hunangofiant bobol enwog yn myd chwareuon, actorion a sêr teledu neu siarad â‘r cyhoedd i weld beth sy’n boblogaidd. Hefyd mynd nôl at awduron llwyddiannus a rhoi cyfle i rai ifanc. Rhaid dewis hefyd o lu o geisiadau sy’n dod i’r swyddfa ac mae mwy lawer yn cael eu gwrthod na sy’n cael eu derbyn.

Mae ei gwaith yn cynnwys darllen ac ysgrifennu, cwrdd ag awduron ac artistiaid, gwneud penderfyniadau a lawnsio’r llyfrau. Diolchwyd i Meinir gan Aerwen, hithau’n sôn am gymaint oedd pawb wedi ddysgu am waith amrywiol a diddorol golygydd. Diolchodd hefyd i Gwyneth, Gwenda ac Elsie am wneud y lluniaeth. Enillydd y raffl oedd Pat, y mis yma eto!

Trafodwyd pwy fyddai’n mynychu pwyllgorau celf a chrefft dros y flwyddyn nesa. Cytunodd Aerwen a Morwen i barhau i wneud hynny.

Danfonwyd taflen o amgylch i bawb i lanw os am fynd i ginio Llywydd y De ar 16 Mawrth, yng Ngwesty’r Cliff, Gwbert, gyda trefniadau bws i’w gwneud eto.

Rhoddwyd manylion G?yl Fai, Felinfach, G?yl Haf Machynlleth a chwpan Radi Thomas, Sioe Llanelwedd i bawb a hoffai wybodaeth i gymryd rhan.

Edrychwn ymlaen gyda diddordeb i 14 Ionawr, pan fydd rhai o’r aelodau yn siarad am ‘eu pethau bach sbeshal’.

Cymorth Cristnogol

BRAF oedd gweld cynulliad teilwng iawn wedi dod ynghyd i Eglwys San Pedr er gwaetha’r tywydd garw i ddigwyddiad blynyddol Cymorth Cristnogol sef Carol, Cerdd a Chân.

Croesawyd pawb yn gynnes gan y Parch Jenny Kimber a darllenodd neges oddi wrth y ficer newydd, y Parch Ddr Marc Rowlands yn ymddiheurio ei fod yn methu bod yn bresennol. Pleser oedd cael cwmni Ben Lake ein Aelod Seneddol, maer y dref a’i chonsort, Cyng Ann Morgan a’i phriod Densil ynghyd â’r Cyng Hag Harris, cadeirydd Cyngor Ceredigion a’i bartner Eiry.

Roedd yr Eglwys wedi ei haddurno yn drawiadol iawn â’r cyfan yn portreadu geni’r Iesu ym Methlehem.

O’r dechrau teimlwyd naws hyfryd y Nadolig wrth wrando ar eitemau o safon uchel gan Gôr Meibion Cwmann a’r Cylch, parti llefaru Sarn Helen, Kees Huysmans, Lowri Elen, a Sara Elan. Hefyd mwynhawyd perfformiadau clodwiw gan Gôr Ysgol Dyffryn Cledlyn, y delynores Cerys Angharad ac Alwena Owen, enillwyr Cenedlaethol i gyd oedd yn ymddangos ar y noson arbennig hon am y tro cyntaf. Darllenwyd rhan o’r ysgrythur gan Elaine Davies ac Eira Price a chyhoeddwyd y carolau gan brif swyddogion Ysgol Bro Pedr, sef Osian, Max, Mari Elen, Cari a Siencyn.

Diolchodd Twynog Davies, cadeirydd y pwyllgor lleol i’r rhai oedd wedi cymryd rhan am noson wych, i ficer a swyddogion San Pedr am bob cydweithrediad, i Elonwy Pugh Huysmans am ei gwasanaeth wrth yr organ yn flynyddoedd ers y cychwyn, i’r stiwardiaid wrth y drws ac i bawb am eu cefnogaeth.

Llongyfarchodd Mair Richards, un o bileri Cymorth Cristnogol ar ei phen-blwydd yn 90 oed a thalodd werthffawrogiad iddi am ei chyfraniad hael iawn ac yn olaf ond nid y lleiaf diolchodd i Janet am drefnu’r noson a sicrhau gwasanaeth artistiaid lleol o fri.

Codwyd y swm anrhydeddus o £740 tuag at Gymorth Cristnogol.

Cylch Cinio

DAETH Cylch Cinio Llanbed ynghyd i’r Clwb Rygbi ar 3 Ionawr ar gyfer cyfarfod cyntaf 2019. G?r gwadd ar yr achlysur hwn oedd Dorian Morgan, brodor o Lanbed sydd bellach yn byw a gweithio yng Nghaerdydd. Cafwyd peth o’i hanes gan y llywydd, Eifion Williams, wrth iddo’i gyflwyno a chlywyd ei fod wedi mynychu ysgolion Llanbed cyn ennill gradd dosbarth cyntaf yn y Gymraeg ym Mhrifysgol Abertawe a mynd i weithio yn y Swyddfa Gymreig, yna’r Cynulliad ac yna’r BBC cyn troi i weithio ar ei liwt ei hunan.

Teitl anerchiad Dorian oedd ‘Cyrraedd pob prifddinas yn Ewrop’ ac, yn wir, er iddo aros yn dipyn o ‘dderyn cartref’ nes iddo adael y coleg, fe lwyddodd i wneud hynny cyn troi’n 40 oed, gan ymweld â 53 o brifddinasoedd a rhoi ystyr proffwydol i’w hoffter at yr atlas yn ei blentyndod cynnar.

Anodd fyddai cwblhau gorchwyl fel hwn gyda pharti o deithwyr ac felly teithio ar ei ben ei hun a wnaeth yn fwy aml nag heb. Wrth iddo sôn am ei brofiadau yn y dinasoedd niferus hyn, cafwyd syniad ganddo o’r pethau oedd wedi gwneud yr argraff ddyfnaf arno ar ei deithiau.

Yr oedd Budapest ymhlith ei ffefrynnau a Berlin o ddiddordeb arbennig. O’r safbwynt daearyddol dywedodd mai Gwlad yr Iâ a’i thirlun llwm, arallfydol oedd y fwyaf unigryw o’r gwledydd. O’r safbwynt hanesyddol, yr oedd cysgod llanast dros rai o’r dinasoedd y bu ynddynt - Srebrenica ym Mosnia yng nghanol y naw degau, Oslo tuag adeg anfadwaith y terfysgwr Anders Breivik, neu Chernobyl ger Kiev lle mae ôl-effeithiau’r ddamwain niwclear yn parhau. Cyflawnodd Dorian ei deithiau dros gyfnod a welodd llawer o newid - bu’n ail-ymweld â Warsaw rhyw 20 mlynedd ar ôl ei ymweliad cyntaf, gan ryfeddu i’r fath raddau yr oedd y ddinas honno wedi newid er gwell. Eto yr oedd o’r farn mai ymhlith rhai o werin bobl dlotaf dwyrain Ewrop y profodd y croeso cynhesaf fel ymwelydd.

Yr oedd aelodau’r cylch yn barod iawn a’u cwestiynau a gofynnwyd iddo ba wers a ddysgodd o’i deithiau a’i ateb oedd hyn, sef gwerthfawrogi cymaint y mae’r dinasoedd Ewropeaidd hyn yn amrywio o ran crefydd, diwylliant, rheolau ac arferion a dysgu i barchu a goddef y gwahaniaethau hynny.

Ei gyngor i’r teithiwr oedd iddo baratoi rhaglen hyblyg a realistig ar gyfer bob dydd heb or-gynllunio, ac i deithio â meddwl agored. Gan ystyried ansicrwydd y sefyllfa wleidyddol bresennol, mynegodd y gobaith y bydd teithio o fewn gwledydd Ewrop yn parhau yr un mor ddidrafferth yn y dyfodol.

Rhoddwyd gair diffuant o ddiolch i Dorian gan Gwynfor Lewis ar ran yr aelodau, gan ei longyfarch ar ei araith ddifyr ac ar ei lwyddiant yn ei yrfa.

Cynhelir y cyfarfod nesaf ar 7 Chwefror, pan fydd Michael Morgan, Felinfach, yn olrhain ’Hanes y Diwydiant Llaeth yng Ngheredigion’.

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]