THE latest community news from Lampeter
Merched y Wawr
YNG nghanol tywydd oer a gwlyb ein haf eleni mor belled, cawsom ddiwrnod sych i’n taith ddirgel.
Aethom ar y bws o’r Rwceri gyda phawb yn teimlo’n reit gyffrous ac yn dyfalu tybed ble’r oeddem yn mynd!
Ar ôl llawer o syniadau ymysg ein gilydd ar y ffordd, dyma ni yn cyrraedd Aberystwyth ac ymlaen drwy’r dre yr aethom nes dod at orsaf trên bach Constitution Hill.
Wel, cafodd pawb brofiad eithaf unigryw wrth fynd i fyny ar y trên a chael gweld yr olygfa dros y dref a bae Ceredigion yn ymestyn o tanom.
Cyrhaeddom yr uchelfan gyda phawb yn casglu i ryfeddu ac edrych.
Cerddodd rhai i fyny i gopa’r bryn, eraill yn barod i fwynhau paned a chacen a chlonc.
Ar ôl i bawb gael cyfle i ymlacio, aeth y rhan fwyaf yn ôl i’r trên ond cymrodd rhai y cyfle i gerdded i lawr.
Cyrhaeddom ‘y bar’, gyda phawb yn casglu i gael tro ar y prom cyn cyrraedd gwesty’r Marine i gael swper.
Cawsom gyfle i ymlacio gyda glased o win neu rywbeth o’n dewis cyn mynd i fwyta, l?e cawsom groeso cynnes gan Nerys a pryd o fwyd arbennig o flasus.
I gloi y noson diolchodd Elin, ein llywydd i Nerys a’i staff am y cyfan, hefyd diolchodd i aelodau’r pwyllgor am eu cydweithrediad dros y flwyddyn ac yn enwedig i Mary, ei hysgrifennydd ac Elma ei thrysorydd, gyda phawb yn cytuno ein bod wedi cael blwyddyn o weithgareddau diddorol dros ben ac yn gorffen gyda’n taith ddirgel, diwrnod o ymlacio pur gyda’r diolch i Verina am y trefniadau i gyd.
Yna dymunwyd yn dda i Gillian a’i thîm am y flwyddyn i ddod.
T? Hafan
T? Hafan, the hospice for children in Wales, need volunteers for their shop at High Street.
Volunteering is a great way to learn new skills, put old ones to use, meet lots of great people and gain valuable work experience.
Hours to suit.
Please contact 01570 421976 for more information or pop in for a chat.
Custard Queens
CUSTARD Queens WI will be at the Lampeter Show on Saturday, 6 July.
Come along and enjoy summer punch and cake (cater for glutenfree and vegan), try your luck on our bottle stall or buy from the stall.
They will also have the popular children’s lucky dip.
Go and chat to them about our Incredible Edible garden at The Wash Tub, or recent meetings which have included speed sketching,Tai Chi, and bead work.
Learn about the WI being the organisation that changes things.
If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]




.png?width=209&height=140&crop=209:145,smart&quality=75)
.png?width=209&height=140&crop=209:145,smart&quality=75)

Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.