THE latest community news from Lampeter.
Cwrdd Diwylliadol Shiloh
FFILMIAU Bethan Philips oedd yn diddori ein cymdeithas ddydd Iau.
Yn Neuadd Brondeify yr oeddem, a diolch iddynt, i’r Parch Alun Wyn a’r peiriannydd Huw.
Cawsom storïau difyr a’r cyntaf oedd llwybrau’r fro, gydag Ieuan Williams yn canu emynau Williams Pantycelyn ar y mynyddoedd o amgylch afon Cothi, Abermangoed. Yna cwrdd â theulu Pantycelyn yn yr hen gartref a chael ein swyno gan y merched yn Ysgol Llanymddyfri, yn canu hen ganeuon.
Tri o blant Ysgol Gyfun Llanbed fu’n holi Islwyn Ffowc Elis am ei hoffter ysgrifennu llith a nofelau.
Yr oedd yn awdur poblogaidd ac yn hoffi tawelwch ei gartref ar gyrion Llanbed i ysgrifennu. Yr oedd yn gerddor hefyd ac fe fwynhawyd y canu a’r chwarae cerddoriaeth gan Anwen, Cheryl a Gwilym iddo.
Nesaf i nefol le, Soar y Mynydd, gyda Rosalind a Myrddin yn canu ar fynyddoedd y Cambria a phlant Ysgol Tregaron yn diddori yn y capel bach, gyda’r gynulleidfa o amgylch. John Nantllwyd yn adrodd hanes ac adrodd ar gof benillion am Rhandirmwyn, gyda thua 20 o gorau teuluol yn y capel ac yn mynychu’r oedfaon y bore.
Stori nesaf oedd byw ar y plwyf. Sarah Abel Morgan a’i babi yn dod i Lanbed i gael cymorth i fyw. Yr oedd yn llesg a gwan, ond caledwch oedd agwedd meistr y plwyf ac yn ei danfon yn ôl i Lanwnnen. Rhaid i’w gwr edrych ar ei hôl meddai, er bod hwnnw mewn carchar yn Llundain.
nesaf gwelwn hi y mae yn cael cardod o dri swllt yr wythnos a lle i aros a gweithio. Ond bregus oedd ac ar ôl ei marwolaeth cafodd y crwt gardod a gwaith mewn ffermdai, a chaled oedd arno. Yr oedd y draul ar y plwyf bob blwyddyn wedi codi yn ddwy gini erbyn ei fod yn 15 ac ar ôl hynny nid oes cofnodion amdano yn llyfr plwy.
Stori wedyn am botsiars - roedd llawer o amgylch stad Trawscoed yn hela cwningod rhan amlaf. Ond roedd cipar newydd ar stad ac roedd magl i ddal dynion yn yr hen cwmins. Un diwrnod daeth y cipar a’i was ar draws y dynion a saethwyd y cipar Mr Butler gan Wil Cefn Coch yn farw. Dyna helynt wedyn a £100 o wobr.
Cawsom stori gyffrous am gynllunio gwaredigaeth i Will, ac fe hwyliodd i America, lle aeth ei gariad ato. Roeddem yn eistedd ar ochr ein seddi - storïau cyffrous wrth law awdures odidog.
If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]
Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.