THE latest community news from Lampeter.

Dathlu’r Pasg yn Noddfa

DAETH aelodau Noddfa ynghyd ar gyfer digwyddiad arbennig i ddathlu’r Pasg.

Cyfle oedd hwn i’n hatgoffa beth yw gwir ystyr y Pasg a hefyd i gymdeithasu o amgylch y byrddau tra’n mwynhau pryd o fwyd yng nghwmni’n gilydd.

Fe’n croesawyd gan y gweinidog, y Parch Jill Tomos ac yna clywsom anogaeth llythyr yr Apóstol Paul i’w gyfeillion yng Nghorinth a hefyd ychydig adnodau o’r Testament Newydd yn cyfeirio at baratoadau gwledd y Pasg. Offrymwyd gras wedyn cyn cyfranogi o’r prif gwrs ardderchog wedi ei baratoi gan y chwiorydd. Yn dilyn hyn clywsom hanes Iesu yn golchi traed ei ddisgyblion ac yna mwynhawyd yr ail gwrs, sef dewis o bwdinau chwaethus oedd yn tynnu dwr o’r dannedd. Ar ôl paned daeth noson hyfryd i ben gyda’r gweinidog yn gweinyddu’r Cymun.

Cyn troi tuag adref, diolchodd Alun Williams i’r gweinidog am ei pharatoadau, i Ann Morgan a Myfanwy am drefniadau’r bwyd, i’r chwiorydd a’r brodyr oedd wedi cyfrannu’n helaeth at y lluniaeth ac i’r naw darllenydd.

Tystiau bod pawb wedi cael noson fendithiol a phleserus iawn wrth ddod at eu gilydd i ddathlu gorfoledd y Pasg.

Adran ac Aelwyd yr Urdd

CYNHELIR noson goffi ac adloniant yn neuadd campws cynradd Ysgol Bro Pedr nos Fawrth, 9 Mai, am 7yh.

Bydd cyfle i glywed eitemau buddugol aelodau’r Adran a’r Aelwyd yn Eisteddfodau Rhanbarth Ceredigion.

Agorir y noson gan y Cyng Hag Harris ac mae’r mynediad yn £3.

Bydd 54 o’r aelodau yn cael y profiad o gystadlu yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mhenybont ar Ogwr ar ddiwedd Mai.

St Peter’s Church

FRIDAY, 5 May: Lunch in aid of Christian Aid, Church Hall, 12pm till 1.30pm.

Sunday, 7 May: 8am, Holy Communion in English; 10.30am, Family Service Bilingual.

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]