THE latest community news from Lampeter

Cylch Cinio

CYNHALIWYD cyfarfod olaf y tymor yn y Clwb Rygbi ar nos Iau, 8 Mawrth, wythnos yn hwyr nag arfer er mwyn osgoi gwrthdaro â dathliadau niferus Gwyl ein Nawddsant.

Croesawodd Richard, ein llywydd, nifer sylweddol i’n dathliad.

Yn eu plith oedd sawl aelod a llawer un oedd â pherthynas â’r cylch nawr neu yn y gorffennol.

Estynnwyd croeso cynnes iddynt oll.

Wedi cinio gwych a ddarparwyd gyda’r graen arferol, daeth Côr Cymysg Cardi-Gân i’n diddori a’n diwallu gyda gwledd o gân a digrifwch.

Pawb yn mwynhau yng nghanol naws o agosatrwydd.

Rhy fuan o lawer yr aeth yr amser heibio.

Pwy fedr sôn am dranc ein hiaith annwyl pan fo gwledd o Gymreictod fel hyn ar gael.

Diolchwyd i’n gwesteion ac yn enwedig i’r arweinyddes Rhian Dafydd a’r cyfeilydd amryddawn Wyn Maskell gan un llwyr addas i wneud y gwaith ac sydd wedi rhoi hwb i lawer ohonom sylweddoli bwysiced yw gwarchod ein cyfoeth fel Cymry.

Dyma un a wyr yn llwyr beth yw gwerth a gallu canu - Kees Huysmanns.

Gorffenwyd y noswaith gyda’r gweithgareddau swyddogol arferol.

Diolchodd Richard i’r swyddogion oll am eu gwaith drwy gydol y tymor ac ni ddylid anghofio ef am ein tywys mor fedrus a diffwdan trwy dymor eithriadol o bleserus a llwyddiannus.

Wedyn cyflawnodd ef ei ddyletswydd olaf.

Cyflwynodd y “gavel” i afael ein llywydd nesaf sef Eifion Williams.

Wele llwyr haeddiant o’r anrhydedd - un a fu’n aelod ers cychwyn y Cylch Cinio ac yn ffyddlon iddo o’r dechrau.

Derbyniodd yr anrhydedd gyda gair o’r galon a chymeradwyaeth wresog pawb o’r cwmni.

Noswaith a thymor pleserus yn dirwyn i ben.

Mae’n siwr y bydd disgwyl dwys am y dechrau nesaf yn yr hydref.

Bridge Club

1, Herbie Rowley and Mary Savage (65 per cent); 2, Andrew Phillips and John Evans (55); 3, George Kenchington and Nigel Symmons- Jones (53); 4, Martin Davies and Gwenda Davies (50); 5, Keith Bellamy and Dai Hayes (40); 6, Peter Knott and James Simpson (37).

They meet at Hafan Deg retirement home every Tuesday at 6.40pm.

Newcomers, visitors and learners always welcome.

Lessons available with Keith Bellamy (01974 298811) or at the Feathers Hotel every Wednesday at 1pm.

St Peter’s Church

FRIDAY, 6 April: Monthly Lunch in aid of Christian Aid, 12pm - 1.30pm in the Church Hall.

Sunday, 8 April: 8am, Holy Communion in English; 10.30am, Holy Communion bilingual.

St Mary’s Church, Maestir

2.30pm, Holy Communion in English.

Shiloh a Soar

MI gymrodd noson Gwyl Dewi ffurf gwahanol eleni wrth i wragedd diwyd y ddwy eglwys benderfynu cael seibiant o wneud y cawl a gofyn i‘r amryddawn Gareth Richards, Goedwig weini wrth y byrddau.

Cafwyd pryd i’w gofio, gyda’r holl ddanteithion a’r addurniadau o gwmpas y Festri yn Shiloh yn briodol i ddathlu Gwyl ein Nawddsant.

Y gwr gwadd oedd yr Aelod Seneddol Ben Lake a chafwyd araith hynod ddiddorol ganddo o’i brofiadau o fod yn AS ifanc yn San Steffan.

Roedd eisoes wedi cael y profiad o gyfarfod â rhai o enwogion y genedl o bob plaid ac yr oedd yn amlwg fod Ben wedi llwyr ymgartrefu er fod y profiadau yn newid byd mawr iawn iddo.

Teimlodd pawb yn freintiedig fod person ifanc mor dalentog a brwdfrydig yn ein cynrychioli ni yng Ngheredigion.

Mynegodd y llywydd Philip Lodwig ein gwerthfawrogiad i Ben ac am yr holl drefniadau ar gyfer noson hyfryd a erys yn hir yn y cof.

Fe ddaw tymor y Gymdeithas i ben gyda’r Trip Blynyddol ar y ddydd Iau, 28 Mehefin, pan y byddwn yn ymweld a chanolfan Mari Jones yn y Bala â chartref Hedd Wyn yn yr Ysgwrn, Trawsfynydd.

Uchafbwynt mae’n siwr i raglen lwyddiannus o dan nawdd y Gymdeithas Ddiwylliadol y ddwy eglwys.

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]