THE latest community news from Llanafan

Merched y Wawr

Daeth nifer fawr o aelodau i noson agoriadol y tymor, ar 10 Medi ac roedd hi’n braf cael cyfarfod gyda’n gilydd unwaith eto ar ôl seibiant dros yr haf, gyda phawb yn edrych ymlaen at flwyddyn arall o weithgaredd amrywiol mewn cwmni difyr.

Wedi trafod materion busnes y gangen, rhannwyd yr aelodau i dimau o bedair ar gyfer cwis hwyl dan ofal y cyd-ysgrifenyddion Angharad a Nerys Morgan. Bu’r ddwy yn ddiwyd iawn yn paratoi, a bu llawer o grafu pen wrth geisio ateb yr holl gwestiynau am Gymru a’r ardal. Pan gafwyd yr atebion teimlem ein bod ni wedi dysgu gryn dipyn am ein gwlad ein hun!

Tîm Mair oedd yn fuddugol, gyda phob un o’r pedair aelod yn cael gwobr o focs o siocledi hyfryd. Mawr yw’n diolch i Angharad a Nerys am noson hwyliog a chymdeithasol.

Cynhelir y cyfarfod nesaf nos Lun, 8 Hydref yn Festri Capel Afan, pryd y cawn gwmni Sue Hughes, fydd yn rhoi hanes ei gyrfa gyda’r heddlu yn Llundain.

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]