MAE Cwis Bob Dydd yn barod am dymor newydd.

Bydd Cwis Bob Dydd, yr ap cwis ar gyfer teclynnau clyfar, yn dechrau tymor newydd ar 3ydd Mai. Bydd y tymor yn dod i ben ddiwedd y mis hwnnw ar y 31ain cyn dechrau tymor newydd eto ar 5 Gorffennaf am ddau fis.

Er bod y tymor nesaf yn dod i ben o fewn y mis, mae'n bosib chwarae Cwis trwy gydol y flwyddyn. Mae'r ap yn gadael i chi drefnu eich gêm eich hunain, gyda'r opsiwn i gystadlu yn erbyn teulu a ffrindiau yn ystod y cyfnodau rhwng y prif dymhorau.

Mae Cwis Bob Dydd wedi bod yn rhedeg ers 2022 gan gynnig gwobrau wythnosol cyffrous, ar gyfer y miloedd sydd yn ei defnyddio yn ddyddiol, a phrif wobr anhygoel ar gyfer cystadleuydd lwcus ymhob tymor.

Y dasg yn syml yw i ateb 10 cwestiwn bob dydd o fewn yr amser byrraf posib er mwyn cyrraedd brig y sgorfwrdd. Eleni bydd yna enillydd wythnosol a hefyd enillydd tymhorol.

Anne Jones o Lanarth, Ceredigion oedd enillydd fwyaf diweddar y Cwis am y tymor diwethaf. Mae Anne wrth ei bodd ei bod wedi ennill am y tro cyntaf erioed. Dyma yn ôl Anne yw un o uchafbwyntiau ei diwrnod, sef cael chwarae’r Cwis yr un pryd â’i gŵr.

Y wobr roedd Anne mor ffodus o’i ennill oedd brêc VIP i ffwrdd yn roddedig gan The Celtic Collection.

Prif wobr y tymor nesaf yw tanysgrifiad blwyddyn i podiau coffi Coaltown a pheiriant coffi Opal er mwyn eu defnyddio nhw. Ac mae 'na wobrau wythnosol o citiau bragu coffi arbennig i'w hennill hefyd.

Rhan annatod o'r hyn sy'n gwneud Cwis Bob Dydd mor unigryw yw nad yw ei chwaraewyr yn derbyn yr un cwestiynau, gan ei gwneud yn sialens teg a ffres bob dydd.

Mae'r sgôr yn gyfuniad o'r atebion cywir a pha mor gyflym mae'r cystadleuwr wedi eu hateb, ac mae'r cwestiynau'n wahanol i bawb.

Mae miloedd o bobl wedi cymryd rhan yn y cwis ar hyd y dair mlynedd ddiwethaf. Meddai Iwan England, Pennaeth Di-Sgript S4C:

“Dwi’n falch bod dros 25,000 o chwaraewyr cofrestredig erbyn hyn a dros dwy fil o grwpiau. Mae’r ap wedi diddanu miloedd ond hefyd wedi helpu siaradwyr Cymraeg newydd i ymgysylltu â'r iaith mewn ffordd hwyliog a hygyrch.”

Michaela Carrington, o Grughywel, Powys, wnaeth ennill prif wobr Cwis Bob Dydd yn 2023 sef y defnydd o gar am flwyddyn. Llynedd enillodd Llyr Evans o Gydweli wyliau i bedwar mewn chalet yng nghanol mynyddoedd Ffrainc.

Lawrlwythwch yr ap nawr i gystadlu ac i gyrraedd top y sgorfwrdd. Chwiliwch am "Cwis" i lawrlwytho ar iOS neu Android. Mwy o wybodaeth yma: Cwis Bob Dydd | S4C