THE latest community news from Llanddeiniol
Cymdeithas Ddiwylliannol yr Hebog
Y CYMERIAD lliwgar, Dr William Price, Llantrisant, oedd testun Eirwen James yng nghyfarfod cynta’r tymor yn Festri Elim.
Llwyddodd i greu chwilfrydedd ac ymateb gan yr aelodau oherwydd ei chyflwyniad gafaelgar am hynt a helynt y gwr rhyfeddol o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg.
Crybwyllodd am nifer o nodweddion hynod Dr William Price a’i gamau cyntaf i fyd meddygaeth yn fachgen ifanc.
Diddorol oedd clywed nad oedd yn fodlon trin unrhyw glaf os oedd yn smoco.
Rhoddai bwys mawr ar lendid ac yr oedd gwisgo sanau yn wrthun iddo.
Gosododd Eirwen James ef hefyd yn ei gyd-destun hanesyddol.
Ystyrid y llawfeddyg dawnus yn un o Siartwyr amlycaf Morgannwg ac ymhyfrydai yn y dirgelion derwyddol.
Arloeswr corfflosgi yw Dr William Price i nifer o bobl.
Cafwyd crynodeb didwyll o’r hanes am farwolaeth ei fab, yr amlosgi a’r achos llys.
Cyflwynwyd Eirwen James sy’n byw yn ardal Llanio gan gadeirydd y gymdeithas, y Parch Nicholas Bee, a diolchwyd iddi am orig gofiadwy gan Trefor Jones. Bu’r lluniaeth a’r te a baratowyd gan aelodau Elim yn fodd i hybu’r gwmnïaeth am gyfnod wedyn.
If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]






Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.