THE latest community news from Llanfarian

Merched y Wawr

NOSON i edrych ymlaen ati ddechrau mis bach. A hynny yng nghwmni William Griffiths o Gommins Coch yn sôn am ei ddiddordebau. Croeso yn gyntaf gan Mair i bob un sydd wedi gwella a chofion cynhesaf at rai o’r aelodau sy’n anhwylus ar hyn o bryd. Cyfle wedyn i Will gael rhannu rhai o’i ddiddordebau â ni. Ei ddiddordeb a’i gariad cyntaf yw’r gwenyn, ond ar wahan i’r rheini mae ganddo lu o rai eraill. Soniodd yn gyntaf am ei fam oedd yn ddieithriad yn gwau, gwnïo neu yn trwsio. Dysgodd hi i bob un o’r teulu i fendio e sanau ei hunan. Byddai madarch bach pren yn hwyluso’r gwaith. Mae Will yn gwneud y madarch pren ei hunan. Y dasg gyntaf i rai o’r aelodau oedd troi eu llaw at fendio tyllau yn sanau Will. Trwsio clociau yw un arall o’i sgiliau a ddysgodd flynyddoedd yn ôl. Mae cloc hen gapel y Tabernacl yn cadw’r amser yn festri’r Morfa wedi gweld ôl ei ddwylo. Pan stopiodd y cloc yn Ebeneser Penparce, siglad go dda wnaeth i hwnnw symud unwaith yn rhagor. Llestri capeli sydd wedi cau bellach yw un o’i gasgliadau mwyaf diddorol sy’n rhan o’n hanes. Gwelsom soser o Lanilar ac arni y llythrennau UDMD. Saif rhain am Undeb Dirwest Merched y De! Pan fydd ganddo funud sbâr mae’n troi at ysgrifennu ac yn cyfrannu colofn i’r papur bro Yr Angor. Weithiau i ddau neu dri cyfnodolin arall.

Mae wedi cyhoeddi llyfrau hefyd, am ei hoff wenyn yn gynt, sef Dyn y Mêl. Yr ail lyfr oedd Mewn un Cornel, sy’n sôn am ei atgofion yn ei gartre, Cornel Ofan. Basned i Gawl yw’r diweddaraf gyda’i fab Hywel yn dylunio.

Pan gafodd Will salwch blin yn ddiweddar cymrodd lwyaid o fêl bob hanner awr am ddydd cyfan. Pleser i Brenda oedd ei weld yn holliac ac yn medru dod atom heno. Diolchodd iddo am ei arddangosfa wych a’i gelfyddyd gain. Wedi edrych ymlaen at ei ymweliad chawsom ni mo’n siomi a bydd croeso cynnes iddo ddod eilwaith gyda’i stôr o waith ei law. Testun ein cystadleuaeth oedd ‘Mwg Dathlu’. Rhoddodd Will, y beirniad, ystyriaeth fanwl i’r holl fygiau a chyhoeddi’r enillydd, sef Mair Griffiths, ei wraig! A phwy oedd yn ail ond Mair eto a daeth Bronwen yn drydydd gyda’i mwg dathlu o Dalsarn. Roedd Eirlys a Iona wedi gofalu am gwpaned tra’r estynnwyd gwobr raffl i Will a Cath. Noson hwyliog yng nghwmni crefftwr cefn gwlad.

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]