THE latest community news from Llanfarian

Merched y Wawr

DATHLWYD Dydd G?yl Dewi eleni yng nghwmni Cymdeithas yr Hebog yng Ngwesty Llety Parc, nos Fercher, 27 Chwefror.

Croesawyd pawb gan Mair Griffiths (llywydd) ac Ann M Davies wnaeth rhoi bendith cyn dechrau bwyta’r wledd flasus.

Y gwraig wadd oedd Sandra Morris Jones, cyn-athrawes a chyn-lywydd Cenedlaethol Merched y Wawr.

Diolch a dathlu oedd thema Sandra. Diolchwyd i’r tîm proffesiynol yn Ward Leri dan arweinyddiaeth Dr Elin Jones am yr holl ofal ohoni yn ei salwch ar hyd y blynyddoedd diwethaf, ac y dal i ddibynnu ar eu harbenigedd.

Dathlu a balchder fod y Gymraeg yn fyw o hyd, ac mae yn ffaith fod pobl a dwy iaith yn fwy clyfar a bod y Cymru yn genedl fach bwerys. Cario ymlaen a chofio am y pethau bychain.

Diolchodd Mair i Sandra ac adroddodd bennill (Fel daeth goleuni i Gymru fach, Goleuni Dewi Sant), a Beti Wyn yn estyn diolch dros Gymdeithas yr Hebog.

Enillwyr y gystadleuaeth oedd: 1, Jean Jones; 2, Mary Parry; 3, Anne Davies.

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]