THE latest community news from Llanfarian
Merched y Wawr
Ystafell gefn y neuadd yn ddiddos oedd yn croesawu’r aelodau fel arfer, a’r llywydd Beti Wyn yn estyn croeso twymgalon i Eirlys Morgan wedi’i cholled pan fu farw Stanley yn ddiweddar .
Ar ddechrau mis Tachwedd a’r gaeaf tywyll ac oer ar ein gwarthaf, beth yn well na chwis bach ysgafn.
A dyna‘n union beth oedd Anne a Beti Wyn wedi’i baratoi – cwestiynau amrywiol o’r syml i’r cymleth.
Ambell gwestiwn yn gofyn i am archwilio cuddfannu y cof am yr ateb.
Hwyl yn wir a phob un yn teimlo yn gysurus ar ddiwedd y noson .
Mair gynigodd y gwerthfawrogiad i’r ddwy.
Mair hefyd a Nesta estynnodd gwpaned i dorri syched.
Cyfle i dynnu rhifau lwcus y raffl a’u hestyn i Valmair a Marian.
Roedd hi’n noson gwerthiant pen bwrdd a’r nwyddau yn mynd a dod yn go sydyn i lenwi tipyn ar y coffrau o dan ofal y trysorydd gofalus Cath.
If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]






Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.