THE latest community news from Llangwyrfon

Merched y Wawr

ARDDANGOSFA o goed Nadolig oedd ar y rhaglen, ac yn wir cafwyd coedwig sylweddol.

Roedd Olwen Jones, o Rydymain, wedi dod â llond tri bwrdd o goed bach amlgyfrwng o’i gwaith i ddangos i’r aelodau.

Dechreuodd gyda chardiau Nadolig yn dangos coed gweddol syml ond effeithiol iawn, gan ddweud bod ei hwyrion yn mwynhau gwneud y rhain.

Aeth ymlaen at goed wedi eu gwneud o ruban, neu ddefnydd, neu bapur, neu foch coed wedi eu gludo ar sylfaen siâp côn, a’u haddurno â gleiniau neu fotymau.

Doedd dim diwedd ar ei dyfeisgarwch a’u dychymyg, ac yn medru gweld posibiliadau mewn pethau y byddwn ni yn eu taflu i ffwrdd, fel topiau poteli llaeth a thudalennau o hen lyfr cerddoriaeth.

Gwelwyd hefyd addurniadau bach ar siâp Santa neu robin neu bêl i’w hongian ar goeden a rhai ychydig yn fwy i’w rhoi ar wal.

Roedd ffrwyth ei hamynedd di-ben-draw yn ddigon i’w ryfeddu. Roedd yn barod iawn i rannu ei chyfrinachau a’u dulliau o weithio gyda’r aelodau, ac yn amlwg, wrth ei dull o gyflwyno, iddi fod yn athrawes cyn ymddeol.

Trefnwyr y noson oedd Ceri Evans ac Aranwen Jarman a hwy hefyd oedd yn gyfrifol am y te. Rhoddwyd y raffl gan Ceri Evans ac fe’i henillwyd gan Anwen Jones, a gwnaed y diolchiadau gan Aranwen Jarman.

Cydymdeimlwyd â Susan Jones, Maesbeidiog, ar golli ei mam-yng-nghyfraith, sef Catherine Jones, Eithingleision.

Bydd ein cyfarfod nesaf ar 11 Rhagfyr ar gyfer y cinio blynyddol ac edrychir ymlaen at wledd wedi ei pharatoi gan Gareth Richards yn ei Gegin.

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]