THE latest community news from Llangwyryfon

Merched y Wawr

AR gyfer eu ‘Noson Allan’ aeth y gangen i Pot Siân, ger Caerwedros i arfer eu doniau artistig wrth baentio llestr neu addurn wedi ei wneud o glai.

Aeth pawb ati gydag awch gan ddewis lliwiau a chynlluniau unigryw.

Erbyn y diwedd roedd gennym nifer o gorachod bach lliwgar a diddorol, bowlenni blodeuog, mygiau smotiog ac un iâr yn gori.

Edrychwn ymlaen yn eiddgar at weld y cynhyrchion gorffenedig ar ôl iddynt gael eu prosesu.

Ymlaen wedyn i’r Moody Cow, ger Llwyncelyn am bryd o fwyd.

Roedd y thema amaethyddol yn amlwg ym mhob man, a hyd yn oed y tai bach ar gyfer ‘heffer’ neu ‘tarw’.

Roedd y bwyd ar y plât hefyd ar raddfa weithfaol a dim perygl i neb achwyn nad oedd wedi cael llond ei fol.

Cyn gorffen cychwynnwyd ar drefniadau’r tymor nesaf.

Y cydlynydd fydd Anwen Jones, trysorydd Delyth Lewis, cofnodydd Wendy Lloyd, dosbarthu ‘Y Wawr’ Mary Williams, gohebyddion Mary Williams a Delyth Lewis.

Seibiant nawr dros yr haf cyn ail-ddechrau mis Medi.

Clwb Garddio

CYNHALIWYD Garddwest y Clwb Garddio ar y cyntedd y tu allan i Felin Pontfaen a chael diwrnod braf heulog eleni eto.

Roedd stondinau niferus megis cacennau, enwi’r tegan medal, llyfrau, chwilio trysor ar fap ac, wrth gwrs, blanhigion.

Gwerthwyd rhifau lwcus ar ffurf hwyaid ymlaen llaw a chafodd yr enillwyr eu pysgota allan o bwll padlo plentyn yn llawn o ddwr.

Diolch i swyddogion y clwb a pherchnogion y Felin am yr holl waith paratoi, a’r clirio wedyn.

Y trefniant nesaf fydd trip i Ddinbych y Pysgod ar 9 Mehefin.

Mae’n agored i bawb a cheir y manylion gan yr ysgrifenyddes.

Clwb Croeso

YNG nghyfarfod mis Mai trefnwyd i gwrdd yn ffreutur y Llyfrgell Genedlaethol am ginio cyn mynd ymlaen i’r Comisiwn Henebion.

Cawsom groeso gan y pennaeth a chlywed am y gwaith ymchwil i hen hanes a’r gwaith i gatalogio a chymathu casgliadau o wahanol lefydd.

Roedd nifer o eitemau o’r casgliadau ar y byrddau i ni gael edrych arnynt a dangoswyd cryn ddiddordeb yn y dogfennau oedd yn delio ag ardal Llangwyryfon.

Codwyd awydd i ddod yn ôl i dreulio mwy o amser yn yr adran ddiddorol hon.

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]