THE latest community news from LLangwyryfon
Clwb Croeso
TREFNIANT mis Gorffennaf oedd mynd ar ymweliad i Swyddfa’r Heddlu. Croesawyd yr aelodau gan y swyddog cymorth cymunedol, Chris Tipper.
Rhoddodd fraslun o’i wahanol ddyletswyddau a’r ardaloedd roedd ef yn gyfrifol amdanynt. Er nad oes swyddfa heddlu mewn pentrefi bellach, na heddwas yn troedio’r heolydd yn cadw llygad ar bob peth, mae car yr heddlu yn dal i yrru trwy’r pentrefi ac yn galw mewn ysgolion a siopau a busnesau lleol er mwyn cadw bys ar y p?ls.
Ymunodd heddwas traffig, Luke Taylor â’r aelodau a dangosodd yr holl gyfarpar y mae heddwas yn ei gario o gwmpas gydag ef ynghlwm wrth ei wasgod, ac mae’r wasgod ei hun wedi ei chyfnerthu i wrthsefyll trywaniad. Roedd pawb yn synnu pa mor drwm oedd hon.
Eglurwyd sut y byddent yn delio gyda rhywun yn gyrru o dan ddylanwad cyffuriau, neu yrru car oedd mewn cyflwr peryglus. Roedd un o’n grwp yn barod i gael tro ar chwythu i mewn i analiedydd a phawb yn hapus o wybod fod y canlyniad yn 0.
Anogwyd pawb i helpu’r heddlu trwy roi gwybod am unrhyw ddigwyddiad yn yr ardal allai fod yn amheus.
Clwb Garddio
YNG nghyfarfod mis Gorffennaf cafwyd gwmni Dr Lizzie Wilberforce, rheolwr cadwraeth gydag Ymddiriedolaethau Natur Cymru.
Mae ei thiriogaeth hi yn cynnwys Ceredigion, Caerfyrddin, Penfro a Brycheiniog. Trwy gyfrwng sleidiau dangosodd y gwahanol gynefinoedd sy’n dod o dan ofal y gadwraeth e.e. coedwigoedd, glaswelltir, tir âr, ymyl ffordd, gwlypdir ac arfordir.
Mae’r bywyd gwyllt a’r blodau sydd yn y rhain yn cael eu meithrin rhag iddynt fynd i golli. Gwelwyd enghreifftiau o ‘cyn ac ar ôl’ lle’r oedd y gofal hwn wedi gwneud gwahaniaeth. Roedd hi’n siaradwraig huawdl, yn gwybod ei maes yn drwyadl ac yn amlwg yn mwynhau ei gwaith.
If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]







Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.