THE latest community news from Llangwyryfon

Cymdeithas Tabor

BU cantorion ffyddlon y Gymdeithas, a ffrindiau, allan eleni eto drwy’r pentre, ar ochr ddeheuol Afon Wyre yn canu carolau er mwyn casglu arian tuag at ward cemotherapi Ysbyty Bronglais.

Cyfrannwyd yn hael a chasglwyd dros £800 a mae rhai addewidion eto i ddod. Diolch yn fawr iawn i bawb.

Roedd y cwrdd dechrau’r flwyddyn eleni yng ngofal Geraint Lewis, a thraddododd ar thema ‘Amser’ gan rannu nifer o syniadau a sylwadau i aelodau fyfyrio arnynt. Cymerwyd rhan gan aelodau’r pwyllgor â phob un yn darllen dyfyniad ar yr un thema.

Clwb Croeso

CYNHALIWYD y Cinio Nadolig yng Nghlwb Golff Penrhos ar 12 Rhagfyr a chafodd pawb oedd yno ei wala a’i weddill, fel arfer.

Prynhawn o chwarae gemau bwrdd a gafwyd ym mis Ionawr a bu dominos a chardiau a phosau digon cymhleth yn fodd i gadw pawb yn ddiddig am dros awr. Roedd nifer wedi methu dod, am wahanol resymau, ond cafodd y rhai oedd yno ddigon o hwyl.

Clwb Garddio

YN briodol iawn, cafwyd sesiwn ymarferol o wneud addurniadau Nadolig yng nghyfarfod mis Rhagfyr. Roedd Carol a Maureen wedi gofalu am yr holl ddeunyddiau gan gynnwys torchau, basgedi, rhubanau, canhwyllau, peli sgleiniog, oasis, weiren, yn ogystal â phentyrrau o ddail a chelyn a moch coed pinwydd.

Llwyddodd pawb i wneud torch neu fasged Nadoligaidd a theimlo’n eithaf bodlon gyda gwaith y noson ac yn falch i fynd ag ef adref.

Tra’n mwynhau’r lluniaeth sy’n arferol yn y cyfarfod hwn, bu pawb yn nodi ar bapur ei ddewis ef o ymdrech orau’r noson.

Yr enillydd oedd Stephanie Jones, Newbridge, a hi fydd yn cadw Cwpan Coffa John Flynn am y flwyddyn.

Neuadd Santes Ursula

AR y nos Sul cyn y Nadolig cynhaliwyd noson o ganu carolau yn Neuadd Santes Ursula. Arweiniwyd y canu gan Judith Jones a’r gyfeilyddes oedd Mary Morgan.

Bu’r plant yn chwarae rhan flaenllaw yn y canu a hefyd ar offerynnau unigol – Osian Jewell ar y delyn, Nia Lewis ar y saxophone, Megan Davies ar y ffliwt a Cynan Lewis ar y trwmped.

Adroddwyd stori yn Saesneg gan Rebecca Jewell a darllenwyd darn yn Gymraeg gan Glenys Morris.

Wedi’r canu roedd pawb yn barod am baned. Mae’n braf gweld bod y trefniant yn dal yn ei flas ar ôl 18 mlynedd â’r neuadd yn llawn.

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]