THE latest community news from Llangwyrfon.
Cymdeithas Tabor
TREULIWYD noson ddiddorol iawn ar ddechrau mis Ionawr yng nghwmni gyrwyr Beiciau Gwaed Cymru.
Mae’r rhain i’w gweld yn eu siacedi melyn a’u beiciau modur yn amlwg yn teithio’r wlad yn ystod oriau anghymdeithasol ar benwythnosau. Er mai Beiciau Gwaed yw’r enw, maent yn cludo nifer o bethau meddygol angenrheidiol eraill hefyd o un ysbyty i’r llall.
Clywsom am yr hyfforddiant trylwyr a roddir i’r beicwyr cyn cael eu derbyn i wneud y gwaith a’r asesu parhaol er mwyn cadw safonau uchel. Cofier mai gwirfoddolwyr yw’r rhain i gyd a bod ganddynt amrywiaeth o swyddi eraill yn ystod yr wythnos.
Roedd y tîm ddaeth i ymweld â ni yn amlwg yn mwynhau medru rhoi’r gwasanaeth pwysig yma a hefyd yn mwynhau cwmni ei gilydd.
Daethant â beiciau gyda hwy er mwyn i ni gael golwg agosach arnynt a chyfle i eistedd ar un, ond yn bwysicach rhag ofn y deuai galwad brys i un ohonynt.
Roedd aelodau o’r Clwb Ffermwyr Ifanc yn bresennol hefyd er mwyn medru cyflwyno’r arian a gasglwyd wrth ganu carolau o gwmpas yr ardal cyn y Nadolig.
Ar ran y gymdeithas a’r clwb cyflwynwyd dros £1,400 i Feiciau Gwaed Cymru â phawb yn cytuno ei fod yn werth yr ymdrech er mwyn cefnogi’r fath achos da.
‘Heddwas a’i Gi’ oedd testun ail gyfarfod y gymdeithas ym mis Ionawr, ac roedd yn bleser croesawu’r heddwas Hefin Jones i sôn am sut yr hyfforddir c?n arbennig yr heddlu.
Nid yw pob ci’n cael ei hyfforddi ar gyfer yr un gwaith; mae’r rhan fwyaf yn arbenigo mewn chwilio a darganfod rhywbeth penodol, megis eiddo, gyffuriau, ddrylliau neu gyrff.
Mae’n bwysig i ddechrau i ddewis ci sy’n amlwg yn awyddus i ddysgu â’r wers gyntaf yw ufudd-dod llwyr.
Mae’r hyfforddiant yn ddwys, ond yn raddol dros gyfnod o wythnosau â’r wobr i’r ci am wneud yn dda yw cael chwarae gyda phêl tennis.
Pan ddaeth Ben y ci i mewn i’r ystafell dangosodd yn fuan ei ddawn i ddarganfod rhywbeth roedd Hefin wedi ei guddio, a phan gafodd y bêl yn wobr roedd yn amlwg wrth ei fodd.
Cwrdd Bach
AR nos Iau, 6 Chwefror cynhaliwyd Cyfarfod Cystadleuol blynyddol Tabor, yn festri’r capel.
Cafwyd cystadlu o safon uchel, y plant wedi eu hyfforddi’n dda gan athrawon yr ysgol.
Donald Morgan, Llanrhystud oedd y beirniad cerdd, gyda Mared Llwyd, Rhydyfelin yn beirniadu’r llên ac adrodd. Bu Mirain Griffiths, Llanfarian yn beirniadu’r coginio, gwaith llaw, technoleg a ffotograffiaeth.
Elin Calan Jones oedd yn arwain y noson a chadeiryddes y noson oedd Anne Jones, Ystrad Aeron.
Rhoddwyd y rhubanau eleni gan flaenoriaid Capel Tabor, a Dylan Davies oedd wrth y drws.
Gwnaed y diolchiadau gan Ifor Morgan.
Canlyniadau:
Cerddoriaeth - Unawd Ysgol Feithrin: 1 Efan Hamer; Unawd Derbyn: cydradd 1 Isabel Evans a Lois Rees; Unawd Bl 1 a 2: 1 Ela Hamer; Unawd Bl 3 a 4: 1 Lisa Rees; Unawd Bl 5 a 6: 1 Ella Evans; Parti Unsain dan 12: 1 Merched y Caban; Cân Bop dan 18: 1 Merched y Caban.
Offerynnol - Plant Cynradd Unrhyw Offeryn: 1 Charlie Baxter; Plant Cynradd Unawd Piano: 1 Janet Evans; Parti Recorder: 1 Bl 6.
Llefaru - Ysgol Feithrin: 1 Martha Morice; Dosbarth Derbyn: 1 Lois Rees; Llefaru Bl 1 a 2: 1 Angharad Thomas; Bl 3 a 4: 1 Gwenno Jones; Bl 5 a 6: 1 Ella Evans; Parti llefaru Bl 6 ac Iau: cyd 1 Parti’r Bechgyn a Pharti’r Merched.
Arlunio - Plant Ysgol Feithrin: 1 George Williams; Dosbarth Derbyn: 1 Neli Williams; Bl 1 a 2: 1 Angharad Thomas; Bl 3 a 4: 1 Lisa Rees: Bl 5 a 6: 1 Sophie Evans; Bl 8: 1 Nia W Lewis.
Gwaith Llenyddol: Rhyddiaith - Bl 1 a 2: 1 Angharad Thomas; Bl 3 a 4: 1 Lisa Rees; Bl 5 a 6: 1 Ella Evans; Bl 8: 1 Nia W Lewis; Bl 10: 1 Glesni Morris.
Barddoniaeth - Bl 1 a 2: 1 Angharad Thomas; Bl 3 a 4: 1 Aron Thomas; Bl 5 a 6: 1 Janet Evans; Bl 8: 1 Nia W Lewis.
Llawysgrifen - Derbyn a Meithrin: 1 Lucy Kennedy; Bl 1 a 2: 1 Osian Jones; Bl 3 a 4: Erin Baxter; Bl 5 a 6: 1 Janet Evans.
Agored - Brawddeg BERWYN: 1 Ellen Rees; Brysneges llythyren T: 1 Delyth Lewis;
Gorffen limrig: 1 Delyth Lewis.
Coginio - Cacen Betys a Siocled (rysáit arbennig): 1 Janet Evans; Cacen Sinsir: 1 Ceri Evans; 4 Tarten Cwstard ?y: 1 Ceri Evans; Ysgol Gynradd, 3 Cwci: 1 Ela Hamer; Ysgol Uwchradd, 4 Brownie: 1 Gwenllian Evans.
Gwaith Llaw - Gwnïo cas clustog: 1 Sioned Hopkins; Gwau/Crosio blodyn: 1 Delyth Lewis;
Ysgol Uwchradd, Creu eitem gan ddefnyddio topiau potel llaeth plastig: 1 Megan Lloyd; Cylch Meithrin a Chyfnod Sylfaen, Addurno llwy bren: 1 Angharad Thomas; Cyfnod Allweddol 2, Addurno llwy bren: 1 Aron Thomas.
Technoleg - Ysgol Gynradd, Graffeg Cyfrifiadurol: 1 Ela Hamer; Dan 18 oed, Poster hysbysebu Eisteddfod 2020: 1 Megan Lloyd; Ffotograff Hen a Newydd: 1 Lisa Rees.
If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]







Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.